Strategaeth Gymunedol 2011-21
Strategaeth Gymunedol Bro Morgannwg 2011-21

Mae Strategaeth Gymunedol newydd wedi cael ei
chynhyrchu i Fro Morgannwg, sy'n adlewyrchu agwedd mwy
cydweithredol at wella safonau byw yn y Fro.
Mae'r Strategaeth yn cynnwys y cyfnod 2011-21.
Mae wedi ei seilio ar y Strategaeth flaenorol ac yn ymgorffori
nifer o gynlluniau a strategaethau partneriaethau
allweddol. Mae'r Strategaeth yn cynnwys:
- Cynllun Plant a Phobl Ifanc
- Strategaeth Iechyd, Gofal Cymdeithasol a Lles
- Cynllun Gweithredu Diogelwch Cymunedol
- Strategaeth Adnewyddu
- Strategaeth Dysgu a Sgiliau
- Strategaeth Pobl Hŷn
Mae cyfuno'r holl strategaethau yma i
mewn i un ddogfen wedi bod yn dasg astrus, ond mae hefyd wedi
amlygu cyfleoedd i gydweithio.
Cafodd y Strategaeth ei datblygu gan amryw
bartneriaid i sicrhau ein bod wedi dethol y blaenoriaethau cywir ar
gyfer y Fro.
Adroddiad Blynyddol
Mae'r Adroddiad Blynyddol wedi ei
rannu'n chwe cadran i adlewyrchu'r hyn sydd wedi cael ei gyflawni
gan ein partneriaid allweddol sy'n arwain gwahanol flaenoriaethau.
Mae pob adran yn darparu gwybodaeth am berfformiad a chanlyniadau,
datblygiad data, heriau a gweithredu allweddol ar gyfer 2012-13.
Dylid ystyried cyraeddiadau yng nghyd-destun man cychwyn y
Strategaeth.