Vale of Glamorgan Council

Text Only


Hafan > Byw > Cynllunio > Gorfodi
Byw | Gweithio | Mwynhau | Ein Cyngor
English
Cwyno am Orfodaeth Cynllunio

Gorfodi

 

Rheolaeth Gorfodi

Mae gan y Cyngor bwerau sy’n ei alluogi i ddelio â datblygiadau heb awdurdod ac mae’n bosib y bydd yn mynd ati i weithredu’n ffurfiol er mwyn unioni unrhyw achosion o dorri rheolaeth gynllunio os ydyw o fudd i’r cyhoedd iddo wneud hynny.

 

Ym 2005/6 deliodd yr Adran ag 827 o achosion o dorri rheolau cynllunio. Roedd 335 ohonynt yn gwynion a gyflwynwyd yn uniongyrchol gan y cyhoedd. Roedd y gweddill un ai’n gwynion a gyflwynwyd yn ddienw, yn gwynion gan gynghorwyr ac adrannau eraill y cyngor, neu’n deillio o fonitro ffeiliau cynllunio’n fewnol.

 

Mae staff yr Uned Orfodi yn treulio llawer iawn o’u hamser yn delio â chwynion. Rydym yn rhagweld y bydd y system a arweinir gan gwynion neu’r system adweithiol, yn golygu y bydd yna gryn dipyn o waith i’w wneud. Mae’n rhaid i’r gwaith o ddelio â chwynion oddi wrth y cyhoedd ac aelodau’r Cyngor gael BLAENORIAETH UCHEL, gan fod y gallu i ddelio â chwynion yn gyflym ac yn effeithiol yn hanfodol os ydym am gynnal ansawdd y gwasanaeth.

 

Felly, mae’r Cyngor yn anelu at gyflawni’r canlynol:

Ar hyn o bryd mae’r uned yn bodloni’r targedau uchod ac mae hi’n gobeithio gwella’i pherfformiad unwaith eto eleni.

 

Mae’r adran hefyd yn anelu at gyflawni’r targedau canlynol mewn perthynas â materion gorfodi:

 

Cysylltwch â’r adran orfodi’n uniongyrchol gyda’ch cwyn drwy ddefnyddio’n ffurflen ar-lein

 

Yma gallwch lawrlwytho a phrintio ffurflen gais i’w llenwi a’i hanfon yn ôl i’r Adran Rheoli Datblygu i’w hymchwilio. Ewch i’r dudalen Gyswllt i gael rhagor o wybodaeth.


Pwysig: mae’n werth i chi nodi mai dim ond cwynion swyddogol ar ffurf llythyr neu ffurflen y bydd yr adran yn ymdrin â nhw - ni fydd yr adran yn mynd ar ôl cwynion a dderbynnir yn ddienw. Byddwn yn gofyn i bobl sy’n ffonio’r Adran lenwi ffurflen a’i hanfon yn ôl atom. Yn gyffredinol, dim ond pan fydd gennym ddigon o amser wrth gefn y byddwn ni’n delio â chwynion dienw. Mae’r adran hon wedi derbyn nifer o gwynion maleisus ac annilys gan bersonau dienw yn ddiweddar ac fe ddylech nodi mae’r flaenoriaeth leiaf yr ydym yn ei roi i gwynion felly.



Return to Graphics Mode
| Hafan | Newyddion Diweddaraf | chwilia | Help | Ymwadiad | Cymraeg teitl. |