Croeso i
Gyngor Bro Morgannwg

Cofrestr cynllunio RSS feed available here

 

Cofrestr Cynllunio

Dyma ble i weld ffurflenni cais, cynlluniau ac ymgynghoriadau ar gyfer ceisiadau cynllunio ar y Gofrestr Cynllunio. Mae’n cynnwys manylion llawn y cais, ymgynghoriadau, cyhoeddusrwydd a’r penderfyniadau.  Mae ceisiadau ers 2008 yn cynnwys dogfennau perthnasol eraill, er enghraifft adroddiadau swyddogion.

 

Rhestr wythnosol o geisiadau cynllunio

Mae’r rhestr yn ymddangos islaw.  Os ydych yn awyddus i dderbyn y rhestr ar e-bost bob wythnos, anfonwch lythyr i’r cyfeiriad islaw.

 

Rhestr wythnosol– wythnos a orffennodd ar 12 Awst (Saesneg)

 

Penderfyniadau a ddirprwywyd i swyddogion

Mae cynlluniau llai, er enghraifft estyniad i dŷ, yn cael eu gosod yn nwylo Pennaeth Cynllunio a Thrafnidiaeth y cyngor yn hytrach na chael eu hystyried gan y Pwyllgor Cynllunio.  Mae’r rhestr o benderfyniadau’n ymddangos yn wythnosol ac mae’r diweddaraf islaw.

    Penderfyniadau swyddogion– wythnos a orffennodd ar 27 Awst (Saesneg)


Hysbysiad o Benderfyniadau

Cyhoeddir Hysbysiad o Benderfyniadau ar gyfer pob Cais Cynllunio a wneir.  Mae'r ceisiadau a gyflwynwyd rhwng 1990 - 2002 ac 1978  i'w gweld isod.  Y ffordd orau i ddod o hyd i’r penderfyniad yr ydych yn chwilio amdano yw defnyddio’r cyfeirnod, er enghraifft “1990 / 00023”.

Hysbysiad o Benderfyniadau  - 1978 and 1990 - 2002

 

Hysbysiadau Statudol 

Yn ogystal ậ hysbysu cymodogion a chodi arwyddion ar y safleoedd dan sylw.  Cyhoeddir Hysbysiadau Statudol ar gyfer cynigion a all effeithio ar ardal ehangach.  Mae’r rhestr yn cynnwys ceisiadau a all effeithio ar Adeiladau Rhestredig, Ardaloedd Cadwraeth, Hawl Tramwy Cyhoeddus neu geisiadau gyda Datganiad Amgylcheddol.

Hysbysiadau Statudol - 5 Awst (Saesneg)

 

Rhoi eich barn ar gais cynllunio

Mae yna groeso i chi anfon eich barn ysgrifenedig atom ni.  Mae’r manylion cyswllt islaw. 

Cofiwch gynnwys fanylion llawn y cais.

 

E-bost:  planning&transport@valeofglamorgan.gov.uk

 

Rheoli datblygu (Development control)

Cyngor Bro Morgannwg

Dock offices

Y Barri

CF63 4RT.

Cyngor Bro Morgannwg, Swyddfeydd Dinesig, Holton Road, Y Barri CF63 4RU, Rhif Ffôn: (01446) 700111