Croeso i
Gyngor Bro Morgannwg

 

Cynllun Datblygu Lleol Bro Morgannwg

 

Eich Bro, Eich Dyfodol

Mae Cyngor Bro Morgannwg yn paratoi Cynllun Datblygiad Lleol (LDP), a fydd yn datgan sut caiff tir ei ddefnyddio rhwng 2012 a 2026. Bydd yn cynnwys manylion am ddatblygiadau adeiladu tai, adnoddau cymunedol, cyfleoedd cyflogi, trafnidiaeth, rheoli gwastraff a manwerthu. Bydd y cynigion a'r polisïau'n cymryd lle'r rhai sydd yn y Cynllun Datblygu Unedig 1996-2011 yn y pen draw.

 

Ymgynghoriad drafft llawn y Cynllun Datblygu Lleol a'r Dogfennau Cysylltiol - wedi dod i ben

 

Ar 25 Ionawr 2012, cymeradwyodd Gyngor Bro Morgannwg Gynllun Drafft yr LDP, yr Adroddiad Gwerthusiad Cynaliadwyedd a'r Adroddiad Asesu Rheoleiddio Cynefinoedd (Asesiad Addas) at bwrpas ymgynghoriad cyhoeddus. Cychwynnodd yr ymgynghoriad ar 20 Chwefror a pharhau tan 17:00 ar 2 Ebrill 2012.

 


 

Beth sy'n digwydd nesaf?

Bydd y Cyngor yn cyhoeddi enw unrhyw safleoedd newydd sydd wedi cael eu cynnig gan drydydd partïon yn dilyn yr ymgynghoriad cyhoeddus. Wedyn bydd ymgynghoriad pellach o chwe wythnos yn cael ei gynnal i roi amser i bobl wneud sylwadau ar y safleoedd amgen hyn. Cyflwynir adroddiad i'r Cabinet yn nes ymlaen yn 2012 ar yr ymatebion i ddogfennau ymgynghori Drafft Llawn y Cynllun, a'r safleoedd amgen sy'n cael eu cynnig ar gyfer datblygu trwy'r ymgynghoriad.

 

Bydd y Cynllun Datblygu Lleol wedyn yn mynd at Lywodraeth Cymru lle bydd Arolygydd yn cael ei apwyntio i archwilio dilysrwydd y Cynllun. Bydd yr Arolygydd wedyn yn cyflwyno adroddiad ar y Cynllun y mae rheidrwydd ar y Cyngor ei weithredi. Bydd y Cynllun yn cael ei fabwysiadu'n ffurfiol gan y Cyngor a'i wneud yn hysybs.

 


Cytundeb Cyflawni

 

Mae’r Cyngor wedi paratoi Cytundeb Cyflawni sy’n cynnwys amserlen ynglŷn â pharatoi’r Cynllun, a Chynllun Cyfraniad y Gymuned sy’n esbonio sut mae’r cyhoedd yn medru cyfrannu.

 

Mae’r cyngor yn cadw golwg fanwl am bethau.  Ym mis Mehefin 2011 cafwyd caniatâd Llywodraeth Cymru i ddiwygio’r amserlen. Cafodd yr amserlen newydd sêl bendith Llywodraeth Cymru ym mis Gorffennaf 2011, ac mae bellach yn rhan o’r Cytundeb Cyflawni.

 

Mae Llywodraeth y Cynulliad wedi cyhoeddi dogfen o’r enw Cynllunio'ch Cymuned (Gorffennaf 2006).  Bwriad y ddogfen yw annog pobl leol i fod yn rhan o’r drefn o ddatblygu Cynllun Datblygu Lleol yng Nghymru.

 

Mae’r cytundeb ar bapur mewn nifer o lefydd ar hyd a lled y Fro.

 

Cytundeb Cyflawni drafft, yr ymatebion, ac ymateb y Cyngor.

 

Y weledigaeth

Ym mis Ionawr 2007, penderfynodd y Cyngor fabwysiadu’r weledigaeth sydd yn Strategaeth Gymunedol Bro Morgannwg (2003-2013) fel sail i’r Cynllun Datblygu Lleol.

 

Dyma’r weledigaeth oedd yn sail i ddatblygu’r strategaeth a gyhoeddwyd ar gyfer ymgynghori yn Ionawr a Chwefror 2008.

 

Local development plan visioning paper

 

Safleoedd dan ystyriaeth

Rhoddodd y cyngor wahoddiad i ddatblygwyr, tirfeddianwyr a phawb arall oedd â diddordeb i awgrymu safleoedd i’w cynnwys yn y Cynllun Datblygu Lleol.  Mae mwy o wybodaeth am y safleoedd yma ar gael.

 

Drafft y Strategaeth a Ffafrir

Adroddiad Cychwynnol yr Asesiad Cynaliadwyedd

Paratoi’r Strategaeth a Ffafrir yw un o gonglfeini’r Cynllun Datblygu Lleol.  Mae mwy o wybodaeth berthnasol – dogfenni, cofnodion cyfarfodydd ac yn y blaen – ar gael.

 

Rheoliadau Asesu Effaith Cynlluniau a Rhaglenni ar yr Amgylchedd (Cymru) 2004

Gan fod y Cynllun Datblygu Lleol yn mynd i effeithio’n sylweddol ar amgylchedd Bro Morgannwg, mi fydd Asesiad Amgylcheddol Strategol yn cael ei baratoi wrth lunio ac arolygu’r cynllun.  Mae’r manylion islaw.

 

Strategic Environmental Assessment Determination

 

The Environmental Assessment of Plans and Programmes

 

Asesiad o Gynaliadwyedd - Adroddiad Cwmpasog Wedi ei Gymeradwyo

Mae’r adroddiad yn esbonio camau cyntaf y drefn asesu. Mae’n sefydlu cyd-destun ar gyfer Bro Morgannwg.  Mae mwy o wybodaeth am yr adroddiad ar gael.

 

Cysylltu

Os ydych yn awyddus i glywed am ddatblygiadau yn y gwaith, neu os oes gennych chi unrhyw ymholiadau:

Ffoniwch: 01446 700111 neu e-bostio: LDP@valeofglamorgan.gov.uk

Cyngor Bro Morgannwg, Swyddfeydd Dinesig, Holton Road, Y Barri CF63 4RU, Rhif Ffôn: (01446) 700111