Darparwyr gofal
plant
Hyfforddiant 
Rhaglen hyfforddi newydd 2010 - 2011
Am yr holl wybodaeth am hyfforddiant, gan gynnwys dyddiadau,
amseroedd a lleoliadau, ewch i'n Rhaglen
Hyfforddi 2010 - 2011.
Os oes angen mwy o wybodaeth arnochi chi, mae yna groeso i chi
gysylltu:
01446 704 704
fis@valeofglamorgan.gov.uk
Mae nifer o gyrsiau ychwanegol, yn eu plith:
- CACHE Lefel 2 a 3 - Gwaith-chwarae ac ymarfer Da Mewn
Grwpiau Chwarae
- Blas ar Iaith
- Cwrs Iaith Cam wrth Gam
- Pecyn Clwb Bywiog
- NCMA - Ymwybyddiaeth Anabledd, Arolwg Ansawdd Gofal a gweithdy
Cyfrannu.
Am fwy o fanylion, dyma Taflen
wybodaeth Cyrsiau Hyfforddi 2010.
Digwyddiad ymarferwyr gofal plant
Mae'r digwyddiad blynyddol ar dydd Sadwrn 25 Medi 2010 eleni, yn
Neuadd Goffa Y Barri. Thema eleni yw "Newid i fyw".
Dyma'r ffurflen
archebu
Rhagor o wybodaeth oddi wrth:
Debbie Maule
Children Partnership Coordinator
Lifelong Learning
Cyngor Bro Morgannwg
Y Barri
Bro Morgannwg
01446 709 569.
Grantiau cynaladwyedd
Mae pob lleoliad gofal plant sydd wedi ei gofrestru'n gymwys i
geisio am y cymhorthdal. Mae ceisiadau eleni wedi cau ond mae
yna groeso i chi gysylltu am wybodaeth:
Debbie Maule
01446 709 569.
Facebook
Byddwch yn gyfaill i ni ac mi gewch y diweddaraf ar unwaith.
Cofiwch hefyd ein bod yn awyddus iawn i glywed eich newyddion
chi.
Cynnig arbennig yng Nghanolfan Chwarae Coconuts
Ar gael yn awr i bob gwarchodwr plant cofrestredig ym Mro
Morgannwg.
- Pob dydd Mercher - £3.00 i bob plentyn 1-14
oed, £1.50 i bob plentyn o dan un oed; os yw'r ieuengaf yn dod
gyda phlentyn hyn mae mynediad i'r bwchan AM DDIM. Ac
mae mynediad i'r gwarchodwr am ddim!
- Mae angen i ni weld ffurflen gofrestru'r gwarchodwr neu ffordd
arall o'ch adnabod. Mwy o wybodaeth ar 01446 740
404.