Canclwm Japan
Beth yw canclwm Japan?
Daw fallopia japonica yn wreiddiol o
Japan, Taiwan a gogledd China. Daeth i Brydain am y tro cyntaf
ar ddechrau’r 1880au.
Sut mae’n edrych?

Mae’n blanhigyn lluosflwydd
(perennial) grymus, sy’n gallu cyrraedd hyd at dri metr o
daldra. Mae’n gyffredin ar dir diffaith a glannau afonydd.
Mae’n creu dryslwyni trwchus sy’n gorchuddio ardaloedd cyfan yn yr
haf, yn gwywo yn y gaeaf ond yn ail-dyfu’n gryfach yr haf
nesaf.
Pam fod e'n broblem?
Nid oes "gelynion" cynhenid gan
y planhigyn hwn ym Mhrydain. Oherwydd hynny, mae’n
lledaenu heb unrhyw rwystr. Mae’n taflu cysgod dros rywogaethau
cynhenid, mae sbwriel yn casglu odano, mae glannau afonydd yn
cael eu herydu ganddo, ac mae’n niweidio palmentydd, ffyrdd ac
adeiladau oherwydd ei fod yn gallu tyfu trwy darmac a choncrit.
Un o nodweddion mwyaf brawychus canclwm
Japan yw ei fod yn lledaenu dan y ddaear, gan dorri drwy wyneb
y tir yn achlysurol. Mae’r gwreiddgyffion (rhizomes)
yn cael eu gwasgaru i greu planhigion newydd. Mae’r
gwreiddgyffion yma’n fach ac yn wydn iawn - mae’n anodd cael gafael
arnynt, ac maen nhw’n gallu goroesi am amser maith cyn
gwreiddio.
Trafferth arall yw nad oes gan y planhigyn un
diriogaeth arbennig; mae’n gallu ffynnu mewn llawer iawn o
lefydd.
A yw caniatáu i ganclwm Japan dyfu yn drosedd?
Ydy. Yn ôl y Ddeddf Bywyd Gwyllt a Chefn
Gwlad (1981), mae plannu neu ganiatáu i’r planhigyn ffynnu'n
drosedd. Yn ôl Deddf Diogelu’r Amgylchedd 1990, mae’r
planhigyn yn "wastraff rheoledig", hynny yw, mae cael gwared ohono
yn waith arbennig sy’n cael ei reoleiddio'n ofalus.
Sut mae rheoli canclwm Japan?
Fel arfer, trwy gyfuniad o gwtogi a
chwistrellu gwenwyn. Weithiau mae pori'n rhan o’r drefn
reoli. Dewis arall yw ei orchuddio â chlawr arbennig, a
phlannu rhywogaeth sy’n tyfu’n gyflym, er enghraifft pren
helygen.
Sut mae rheoli canclwm Japan ar fy nhir i?
Mae cwtogi neu ddiwreiddio’r planhigyn yn ei
wanhau a thros nifer o flynyddoedd mi fydd gwneud hyn yn ei
ladd. Os yn bosib, mae angen ei losgi’n drylwyr. Os nad
ydych yn ei losgi, mae’n rhaid i chi ei gludo i
safle sbwriel gyda thrwydded berthnasol; mae methiant i wneud hyn
yn drosedd.
Dewis arall yw defnyddio chwynladdwr.
Y chwynladdwr mwyaf cyffredin yw un sy’n cynnwys glyffosad
(glyphosate). Anfantais glyffosad yw ei fod yn
effeithio ar nifer fawr o blanhigion, felly mae angen ei ddefnyddio
gyda gofal. Ymhlith y chwynladdwyr sy’n ei gynnwys mae
Roundup, Tumbleweed a Tough Weed Gun. Mae mathau eraill o
chwynladdwyr ar gael.
Os yw’r planhigyn wedi lledaenu’n bell, dylid
ystyried cymorth arbenigol. Os ydych yn ffyddiog eich bod yn
gallu llwyddo heb gymorth, mae angen cwtogi a chwistrellu yn gynnar
yn yr haf cyn chwistrellu eto yn hwyr yn yr haf.
Beth bynnag yw eich dewis, mae angen cadw
golwg fanwl ar bethau er mwyn sicrhau nad yw’r pla’n dychwelyd.
Sut mae cael gwared â chanclwm Japan?
Mae’r planhigyn, a’r pridd y bu'n tyfu
ynddo, yn “wastraff rheoledig”; hynny yw, mae amodau llym ynghlwm
wrth gael gwared arno. Mae’n rhaid i chi ei
gludo i safle gyda thrwydded i’w dderbyn. Dyma’r rhai agosaf:
Biffa Waste Services
Trecatti Landfill Site
Fochriw
Dowlais
CF48 4AB
Rhif ffôn: 01685 721882
- Mae angen rhoi o leiaf 24 awr o
rybudd iddyn nhw.
- Codir isafswm o dair tunnell fetrig a
chyfran o'r dreth dirlenwi yn ddibynnol ar y pwysau.
- Rhaid gorchuddio trelars ar y daith, gyda
chyfeintiau bychain wedi eu rhoi mewn bagiau, ddim yn rhydd, a
rhaid i'r gyrwyr sicrhau bod y cerbyd yn lan ac yn wag cyn
gadael y safle.
Beth arall ynglŷn â chanclwm Japan sydd angen ei ystyried?
- Nid oes cyfrifoldeb ar Gyngor Bro Morgannwg
nac Asiantaeth yr Amgylchedd Cymru i reoli canclwm
Japan ar ran tirfeddianwyr preifat.
- Cyfrifoldeb y tir berchennog yw sicrhau nad
yw’n effeithio ar dir cyfagos.
- Os yw’r planhigyn, neu’r gwaith o’i waredu,
yn effeithio ar gwrs dŵr, mae’n rhaid i chi
ffonio Asiantaeth yr Amgylchedd ar 08459 333 111.
- Mae’n anodd cael gwared ar ganclwm Japan; fel
arfer mae angen treulio nifer o flynyddoedd, a gwario llawer o
arian, ar y gwaith. Gorau po gyntaf – mae’n haws ac yn
rhatach cael gwared arno cyn iddo ymsefydlu.
- Bydd adnabod a thrin canclwm Japan yn arbed
amser ac arian yn y tymor hir, am mai dim ond megis sefydlu ei hun
mae'r planhigyn, a bydd yn llai abl i wrthsefyll triniaeth nag y
bydd yn nes ymlaen.
- Mae angen i rywun sy’n cael ei dalu i gael
gwared â’r planhigyn fod â Thystysgrif Prawf Hyfedredd
Cenedlaethol. Ar gyfer chwistrellu sach gefn, PA1 a PA6
neu debyg ydy'r safonau angenrheidiol.
- Bydd torri neu chwalu canlwm Japan dim ond yn peri iddo
wasgaru'n bellach.
- Peidiwch â chompostio na
mandorri canclwm Japan.
Cysylltu
Os yw’r planhigyn ar dir y Cyngor, ffoniwch
UnFro ar 01446 700111.
Os yw’n agos at gwrs
dŵr, ffoniwch Asiantaeth yr Amgylchedd ar
08459 333 111.