Teithio i’r Maes Awyr
Mae maes awyr pennaf Cymru, Maes Awyr Rhyngwladol Caerdydd, yn
agos iawn i ganolfan weinyddol y Fro yn y Barri – a dim ond rhyw 12
milltir i’r gorllewin o brifddinas Cymru, Caerdydd.
Y Maes Awyr
Mae’r wybodaeth ddiweddaraf am y maes awyr ar gael ar wefan y
maes awyr ei hun
www.tbicardiffairport.com/cy/
Cwmniau Hedfan
AerArann
http://www.aerarann.com/
0800 587 23 24
Air Southwest
http://www.airsouthwest.com/
0870 241 8202
Bmibaby
http://www.bmibaby.com/
0871 224 0224
Eastern Airways
http://www.easternairways.com/
08703 669 100
KLM
http://www.klm.com/
08705 074074
Thomsonfly
http://www.thomsonfly.com/
0870 1900 737
Teithio i Faes Awyr Rhyngwladol Caerdydd
Meddyliwch o ddifrif am ddefnyddio cludiant
cyhoeddus cyn mynd a’ch car i’r maes awyr ac i helpu i leihau eich
ôl-troed carbon ar ein hamgylchedd. Ffoniwch Traveline Cymru
0871 200 22 33 i holi am gynllun teithio neu ewch ar-lein
www.traveline-cymru.info/
Ar y Trên: Y brif orsaf rheilffordd agosaf yw
Gorsaf Caerdydd Canolog ac oddi yno mae hi’n bosib i chi deithio i
gyrchfannau drwy Gymru gyfan a’r DU. Gallwch deithio i Faes Awyr
Rhyngwladol Caerdydd ar y trên o Gaerdydd neu Ben-y-bont ar
reilffordd Bro Morgannwg, a ail-agorwyd i deithwyr ym Mehefin 2005.
Mae’r Maes Awyr yn rhedeg gwasanaeth Bws Gwennol am ddim rhwng y
Maes Awyr â Gorsaf Rheilffordd Rhws.
Ar y Bws: Mae tri chwmni bysus (Bws Caerdydd,
Shamrock, EST Transport) yn cynnig gwasanaeth ym Maes Awyr
Rhyngwladol Caerdydd.
Am fanylion am yr amserlen ffoniwch Traveline ar 0870 6082608 (y
gyfradd alwadau genedlaethol) neu cliciwch ar y cysylltau isod:
Gwasanaeth
x91
Maes Awyr Rhyngwladol Caerdydd - Canol Dinas Caerdydd
Gwasanaeth Dydd Sadwrn – Sul a Gŵyl y Banc
Gwasanaeth
x45 Llanilltud Fawr – Caerdydd
drwy Sain Tathan, Y Rhws, Maes Awyr, Y Barri, Dinas Powys a
Llandochau
Gwasanaeth
x5 (Pen-y-bont) Llanilltud Fawr - Canol Dinas
Caerdydd
drwy Sain Tathan, Y Rhws, Maes Awyr, Y Barri, Dinas Powys a
Llandochau
Gwasanaeth
95 Llanilltud Fawr – Canol Dinas Caerdydd
drwy Sain Tathan, Y Rhws, Maes Awyr, Y Barri, Dinas Powys a
Llandochau.
Gwasanaeth Dydd Sadwrn
 Char: Gadewch y draffordd ar gyffordd 33 ar
yr M4 a dilynwch yr arwyddion i Faes Awyr Rhyngwladol Caerdydd ar
hyd yr A4232, A4050 ac A4226. Mae’r Maes Awyr yn Y Rhws, 12 milltir
i’r gorllewin o Gaerdydd a 10 munud o’r M4.
 Choets: Mae Gwasanaeth Coetsis National
Express yn rhedeg bysus sy’n mynd yn syth i orsaf bysiau Caerdydd
Canolog. Ymholiadau: 08705 808080 neu ewch i http://www.nationalexpress.com/
 Thacsi: Lleolir Desg Tacsi Maes Awyr Caerdydd
yn y neuadd gyrraedd. Mae modd i chi archebu tacsi ymlaen llaw drwy
ffonio: (01446) 710693. Gallwch hefyd archebu ar lein drwy ymweld â
www.cardiff-airport-taxis.co.uk. Mae tacsi o’r Maes Awyr i Gaerdydd
yn costio tua £20.00 ac fe’ch cynghorir i archebu ymlaen llaw.