Y gwasanaeth ieuenctid – amdanon ni
Mae Gwasanaeth Ieuenctid Bro Morgannwg yn
cydweithredu gyda phobl eraill i sicrhau bod ein pobl ifanc yn
cyrraedd eu potensial. Rydym yn helpu pobl ifanc i ddatblygu
fel unigolion trwy eu hannog i gyfrannu at gynlluniau sy’n herio
unrhyw beth sy’n creu problemau iddyn nhw.
Rydym yn falch iawn o’n gwasanaeth.
Ymroddiad ein gweithwyr ieuenctid bendigedig - gweithwyr cyflogedig
a gwirfoddolwyr - sy’n bennaf gyfrifol am ein llwyddiant.
Mae’r bobl ifanc yn gwerthfawrogi ein cymorth. Maen nhw’n
ymateb yn gadarnhaol i'n prosiectau, ac mae’r ffaith bod mwy a mwy
yn ymuno â’r cynlluniau yma’n dangos ein bod yn cyrraedd y nod.