Ydych chi eisiau cwyno neu ganmol?
A wnaethon ni'n well na'r disgwyl? A fethon ni gynnal neu
gyrraedd ein safonau?
Dywedwch wrthon ni.
Mae ffurflen
gwynion benodol ar gyfer pobl ifanc - defnyddiwch y ffurflen
hon os oes gennych chi gwyn.
Ein hymrwymiad yw eich trin yn deg a
gofalus. Weithiau, er gwaethaf ein holl ymdrechion, mae
pethau’n mynd o chwith. Rydyn ni'n awyddus i glywed am yr
achlysuron yma, ac am yr achlysuron lle rydyn ni wedi gwneud
yn arbennig o dda.
Cwyn?
Rydyn ni’n awyddus i glywed am gwynion ar
unwaith. Ni fydd cwyno'n effeithio ar y gwasanaethau rydyn
ni'n eu cynnig i chi mewn unrhyw ffordd. Mae’n bosib datrys
llawer o drafferthion gyda’n gilydd yn gyflym. Rydyn ni'n ceisio
datrys pethau o fewn deg diwrnod gwaith. Byddwn ni'n cadw mewn
cysylltiad gyda chi wrth i ni ymchwilio ac ar derfyn yr
ymchwiliad.
Sut i gwyno a sut i ganmol
Ar-lein
Trwy'r ffurflen hon
Post
Cyngor Bro Morgannwg
Holton Road
Y Barri
CF63 4RU
Neges destun
“C1V” yna eich neges i 60066.
Ffôn
Un Fro
01446 700111