Strwythur y Cyngor
Mae gan Gyngor Bro Morgannwg 47 o aelodau etholedig neu
‘gynghorwyr’, pob un ohonyn nhw’n cynrychioli etholaeth neu
ward.
Chwiliwch am eich cynghorydd ar-lein.
Mae’r Cyngor yn cael ei arwain gan Arweinydd a Chabinet, corff o
10 o gynghorwyr sy’n gwneud penderfyniadau allweddol ynglŷn â
pholisïau a chyllid.
Dysgwch fwy am y broses o wneud penderfyniadau.
Mae gwasanaethau’r Cyngor yn cael eu harwain gan y Tîm Rheoli
Corfforaethol, sy’n cynnwys y Prif Weithredwr a phum cyfarwyddwr.
Mae pob un o’r cyfarwyddwyr yn gyfrifol am bum Cyfarwyddiaeth.