Y Cabinet
Pryd mae’r Cabinet yn cyfarfod?
Pob pythefnos, fel arfer. Arweinydd y
Cyngor sy’n cadeirio. Dyma Rhaglen waith y Cabinet.
Yn ystod y cyfarfodydd mae pynciau’n cael eu
trin a’u trafod cyn y bydd penderfyniad yn cael ei wneud. Mae
pob aelod o’r Cyngor yn derbyn copi o agenda’r Cabinet o flaen
llaw. Dyma Amserlen y cyfarfodydd.
Y diwrnod wedi’r cyfarfod, mae unrhyw
benderfyniadau’n cael eu hanfon at aelodau’r Cyngor. Mae gan
gynghorydd yr hawl i “alw i mewn” unrhyw benderfyniad, i’w
archwilio gan un o bwyllgorau craffu’r Cyngor. Mae yna bum
pwyllgor craffu.
Teithio’r Fro
Fel rhan o’r ymrwymiad i ledaenu’r efengyl,
mae’r Cabinet yn cyfarfod mewn llefydd gwahanol i’r arfer ar bedwar
achlysur yn ystod y flwyddyn. Mae yna hefyd Drafodaeth Cyflwr
yr Ardal, sydd wedi cael ei chynnal yn llwyddiannus iawn ers dros
chwe blynedd nawr.
Cynghorwyr y Cabinet, a'u dyletswyddau