Cwcis
Ymwelwyr â'n gwefan
Pan fo rhywun yn ymweld â'r wefan www.bromorgannwg.gov.uk/,
rydyn ni'n casglu gwybodaeth mewngofnodi safonol gwefannau a
manylion patrymau ymddygiad ymwelwyr. Rydyn ni'n gwneud hyn er mwyn
canfod pethau fel nifer yr ymwelwyr ar wahanol adrannau'r
wefan. Rydyn ni'n casglu'r wybodaeth mewn ffordd nad sy'n adnabod
neb. Nid ydyn ni'n gwneud unrhyw ymgais i ddod o hyd i
nodweddion adnabod ymwelwyr â'n gwefan. Ni fyddwn yn
cysylltu unrhyw ddata sy'n cael ei gasglu o'r wefan hon
â gwybodaeth sy'n adnabod unigolion o unrhyw
ffynhonell. Os ydyn ni'n dymuno casglu gwybodaeth sy'n adnabod
unigolion trwy'n gwefan, byddwn ni'n hollol dryloyw am hyn. Byddwn
ni'n nodi'n eglur pryd y byddwn ni'n casglu gwybodaeth bersonol ac
yn esbonio'r hyn rydyn ni am ei wneud â hi.
Defnydd cwcis gan Gyngor Bro Morgannwg
Ffeiliau testun bychain ydy cwcis sy'n cael eu gosod ar eich
cyfrifiadur gan wefannau rydych chi'n ymweld â nhw.
Defnyddir nhw'n gyffredin i wneud i wefannau weithio, neu weithio'n
fwy effeithlon, yn ogystal â darparu gwybodaeth i
berchnogion y wefan.
Mae'r tabl isod yn egluro pa gwcis rydyn ni'n eu defnyddio a
pham.
| Cwci |
Enw |
Pwrpas |
Gwybodaeth bellach |
| Google Analytics |
_utma
_utmb
_utmc
_utmz
|
Casglu gwybodaeth am sut mae ymwelwyr yn defnyddio'n
gwefan. Rydyn ni'n defnyddio'r wybodaeth i goladu
adroddiadau ac i'n helpu ni i wella'r wefan. Mae'r cwcis yn casglu
gwybodaeth ar ffurf ddi-enw, gan gynnwys nifer yr ymwelwyr
â'r wefan, o ble y daeth yr ymwelwyr a'r
tudalennau y gwnaethon nhw ymweld â nhw.
|
Google
Privacy |
| Derbyn cwcis ar wefan Cyngor Bro Morgannwg |
VOGCookiesAccepted |
Cofnodi a yw defnyddiwr wedi derbyn defnydd cwcis ar wefan
Cyngor Bro Morgannwg
|
|
|
Dewis iaith ar wefan Cyngor Bro Morgannwg
|
lang |
Storio eich dewis iaith ar gyfer pori'n gwefan.
|
|
| MyVale |
ASP.NET_SessionId
atMyCouncil
astun
BIGipServerdunlin_pool
atLocation
astun:currentLocation
astun:mapSource
astun:previousLocation
astun:mapView
astun:lyrs_ish_ValeOfGlamorgan_AllMaps
astun:baseMap
astun:vLyrs_ish_ValeOfglamorgan_AllMaps
astun:layerPanelOpenGroups
|
Galluogi'r adnodd mapio ar adran MyVale y wefan.
|
|
|
Gweinyddwyr gwefan Cyngor Bro Morgannwg
|
BIGipServerwww_http_pool
|
|
|
| Adran ffurflenni AchieveForms |
firmstep2session
firmstep2server
BIGipServerlinksenvoy |
Defnyddir y cwcis yma i gadw'r defnyddiwr mewn cyswllt â'r
gweinydd iawn. Maen nhw hefyd yn cadw man cywir y defnyddiwr
ar y ffurflen.
|
|
| eDdinasyddion |
JSESSIONID
UNIQUEREQID |
Mae cwci sesiwn yn gwneud yn siŵr mai'r sesiwn we
gywir sy'n cael ei defnyddio. Mae angen y cwci yma i eDdinasyddion
weithio.
|
|
Mae mwyafrif porwyr y we'n caniatáu rhywfaint o
reolaeth dros gwcis trwy fframwaith y porwr. I ganfod mwy am gwcis,
gan gynnwys pa rai sydd wedi eu gosod a sut i'w rheoli a'u dileu
nhw, ewch i: www.allaboutcookies.org/.
I ddewis peidio á chael eich tracio gan Google
Analytics ar unrhyw wefan, ewch i: tools.google.com/dlpage/gaoptout.
Cwcis YouTube
Rydyn ni'n mewnosod fideos o'n sianel fideo YouTube swyddogol
gan ddefnyddio uwch-osodiad preifatrwydd YouTube. Gall y gosodiad
hwn roi cwcis ar eich cyfrifiadur unwaith y byddwch chi wedi
clicio ar chwaraeydd fideo YouTube, ond ni fydd YouTube yn storio
cwcis adnabod unigolion ar gyfer chwarae fideos wedi eu
mewnosod gan ddefnyddio'r uwch-osodiad preifatrwydd. I ganfod mwy,
ewch i dudalen gwybodaeth mewnosod fideos YouTube.
Wrth i'r Cyngor greu gwasanaethau newydd, mae'n bosibl y bydd
angen i ni addasu'r datganiad hwn. Os bydd ein polisi preifatrwydd
yn newid ar unrhyw adeg yn y dyfodol, caiff ei gofnodi ar y
dudalen hon.
Datganiad preifatrwydd
Mae'r datganiad hwn yn datgelu arferion casglu a dosbarthu
gwybodaeth ar gyfer y wefan hon:
www.bromorgannwg.gov.uk/
Nid yw'n berthnasol i ddolenni i wefannau eraill o'r wefan
hon.
Nid ydy Cyngor Bro Morgannwg (y Cyngor) yn dal na storio unrhyw
wybodaeth bersonol am unigolion sy'n pori'r wefan hon, oni bai eich
bod yn dewis darparu manylion personol i ni trwy e-bost neu
ffurflen ar-lein.
Pan fyddwch chi'n dewis llenwi ffurflen ar-lein, bydd y
wybodaeth bersonol byddwch chi'n ei rhoi i ni'n cael ei defnyddio
gan y Cyngor neu ddarparwyr gwasanaethau trydydd parti sydd wedi eu
cytundebu gennym ni, i ddarparu'r gwasanaeth/au rydych chi wedi
gofyn amdano/amdanyn nhw.
Bydd y Cyngor yn ceisio diogelu'ch gwybodaeth, a
bydd unrhyw ddatgeliad ohoni'n cydymffurfio â'n cofrestriad o
dan y Ddeddf Diogelu Data 1998. Mae gofyn i ddarparwyr
gwasanaethau trydydd parti sy'n cael eu cytundebu gan y Cyngor
gydymffurfio â'r un safonau.
Mae'r Cyngor wedi ymrwymo i gydymffurfio â Deddf Diogelu Data
1998, yn ogystal â pharchu hawl pobl i gyfrinachedd
a phreifatrwydd. Gwnawn ni barchu'ch gwybodaeth breifat. Caiff
ei chadw'n ddiogel a dim ond yr aelodau staff rheiny sydd â
hawl i'w gweld sydd â mynediad iddi. Gwawn ni'n gorau i gadw'r
wybodaeth yn gywir ac yn gyfredol. Pan nad oes angen i ni gadw'r
wybodaeth, gwanwn ni ei ddileu mewn dull diogel. Os hoffech chi
wybod mwy, cysylltwch â:
Y Rheolydd Gwybodaeth
Cyngor Bro Morgannwg
Swyddfeydd Dinesig
Holton Road
Y Barri
CF63 4RU
E-bost: foi@valeofglamorgan.gov.uk
Rhif ffôn: 01446 700111
Mae'r Cyngor dim ond yn casglu'r wybodaeth isod sy'n cael
eu hadnabod yn awtomatig: dyddiad ac amser, y cyfeiriad IP
gwreiddiol, math o borwr a system weithredu sy'n cael eu defnyddio,
a statws cyflawni'r cais. Mae ymwelwyr â'n gwefan yn aros yn ddi-enw gan and oes dim o'r
data hwn yn gysylltiedig ag unrhyw wybodaeth bersonol. Mae'r
wybodaeth uchod dim ond yn caniatáu i ni ddadansoddi problem gyda'n
gweinydd ni ac asesu poblogrwydd tudalennau'r wefan er mwyn i ni
wella'r gwefan yn barhaus.
Nid ydy gwefan y Cyngor yn gorfodi defnyddwyr i alluogi
cwcis ar eu cyfrifiadur. Nid ydy gwybodaeth cwcis yn cael ei chadw
ar ein gweinydd.
Wrth i'r Cyngor greu gwasanaethau newydd, gall hyn olygu y
byddwn ni'n gorfod addasu'r datganiad hwn. Os bydd ein polisi
preifatrwydd yn newid ar unrhyw adeg yn y dyfodol, bydd yn cael ei
harddangos ar y dudalen hon.