Gostyngiadau Treth Cyngor
Os mai dim ond un oedolyn sy’n byw mewn eiddo, mae’n bosib cael
gostyngiad o 25 y cant.
Nid yw pobl sy’n perthyn i’r grwpiau canlynol yn cael eu cynnwys
yn y nifer o oedolion sy’n byw mewn tŷ.
- Myfyrwyr llawn amser, myfyrwyr nyrsio, prentisiaid a
hyfforddeion Hyfforddiant Ieuenctid.
- Cleifion sy’n preswylio mewn ysbytai
- Pobl sy’n derbyn gofal mewn cartrefi gofal
- Pobl â nam meddyliol difrifol
- Pobl sy’n aros mewn rhai mathau o hostelau neu llochesi
nos
- Pobl 19 oed sydd yn yr ysgol neu newydd adael
- Gweithwyr gofal sy’n gweithio am gyflog isel, i elusennau fel
arfer
- Pobl sy’n gofalu am rywun ag anabledd sy heb fod yn ŵr neu
wraig, partner, neu blentyn o dan 18
- Aelodau'r fyddin ar ymweliad a rhai sefydliadau
rhyngwladol
- Aelodau cymunedau crefyddol (mynachod a lleianod)
- Pobl sydd yn y carchar (ar wahân i’r sawl sydd yn y carchar am
beidio talu Treth Cyngor neu ddirwy.
Os ydych chi’n credu eich bod yn gymwys i gael unrhyw un o’r
gostyngiadau uchod cysylltwch â’r adran Treth Cyngor.