Mynedfa e-Ddinasyddion

Cwestiynau cyffredin e-Ddinasyddion

 

Rydw i wedi anghofio fy enw defnyddiwr/cyfrinair e-Ddinasyddion, sut alla i ddod o hyd iddo? 

Os byddwch chi'n ceisio cael mynediad i Adran e-Ddinasyddion fwy na 3 gwaith gyda'r manylion anghywir (e.e. enw defnyddiwr a/neu gyfrinair), bydd mynediad yn cael ei wrthod.

I ddatgloi'ch cyfrif, ffoniwch un o'r timau isod:

Refeniw ar 01446 709564

Budd-daliadau ar 01446 709244

Trethi Annomestig ar 01446 709317

 

Byddwn ni'n gofyn i chi gadarnhau pwy ydych chi trwy ateb cwestiynau diogelwch.

Yn ogystal, os gwnaethoch chi ddarparu cyfeiriad e-bost wrth gofrestru, gallwch chi ofyn am gael eich atgoffa o'ch cyfrinair yma.

 

Rydw i wedi anghofio fy rhif unigryw

Os hoffech chi gael eich atgoffa o'ch rhif unigryw, mewngofnodwch i e-Ddinasyddion, dewiswch 'My Profile' ac yna 'Interactive Services' a darparu'r manylion perthnasol.

 

Alla i newid fy mhroffeil e-Ddinasyddion?

Gallwch. Mewngofnodwch i Adran e-Ddinasyddion, dewiswch 'My Profile'. Gallwch addasu'ch manylion e-Ddinasyddion, e.e. cyfeiriad e-bost, enw a chyfeiriad trwy ddewis 'Change Profile' a newid/diweddaru eich cyfrinair trwy ddewis 'Change Password'.

 

Rydw i wedi cofrestru ar gyfer e-Filio, felly pam ydw i'n dal i dderbyn biliau papur?

Dylech chi dderbyn e-bost pan fyddwch chi'n cofrestru yn y lle cyntaf. Rhaid i chi glicio ar y ddolen yn yr e-bost hwn i gwblhau proses gofrestru e-Filio, neu byddwch chi'n dal i dderbyn biliau papur. Rhaid i bob unigolyn sydd wedi eu rhestru ar gyfrif gofrestru ar gyfer e-Filio er mwyn i holl filiau yn y dyfodol gael eu hanfon trwy e-Filio. Nodwch fod angen cyfeiriad e-bost arnoch chi i ddefnyddio'r gwasanaeth hwn.

 

Mae fy statws bilio electronig yn dangos bod biliau'n cael eu hanfon trwy'r post er bod cyfeiriad e-bost wedi cael ei gofrestru.

Os ydych chi wedi cofrestru ar gyfer e-Filio ac mae enw mwy nag un person ar y cyfrif, RHAID i chi glicio botwm 'Go' ar ôl diweddaru manylion personol pob unigolyn. Os na fyddwch chi'n clicio botwm 'Go', fydd y manylion ddim yn cael eu diweddaru a fydd y wybodaeth ddim yn cael ei chydnabod.

 

Rydw i'n cael trafferth gweld y tudalennau

Os ydych chi'n cael trafferth wrth glicio ar ddolenni i dudalennau hunan-wasanaeth eraill ac rydych chi'n defnyddio 'Internet Explorer', bydd angen i chi ddileu eich hanes pori. Agorwch Explorer, dewiswch 'Tools', 'Internet Options' a'r botwm 'General'. Cliciwch ar 'Delete Browsing History', wedyn cliciwch ar y ddolen eto. Os ydy'r broblem yn parhau, ffoniwch ni ar 01446 709310.  

 

Pryd mae'r system ar gael?

Mae'r system wedi ei chynlllunio i fod ar gael trwy'r dydd bob dydd, ac eithrio 18:00-00:00 nos Sul pan fydd gwaith cynnal a chadw hanfodol yn digwydd.

Os cewch chi drafferth gweld manylion eich cyfrif, cysylltwch â ni:

 

Tim Cefnogaeth e-Ddinasyddion

Dydd Llun-ddydd Iau 09:00-17:00

Dydd Gwener 09:00-16:30

Ffoniwch 01446 709310 neu 01446 709289

neu e-bostiwch y tim perthnasol

Cyngor Bro Morgannwg, Swyddfeydd Dinesig, Holton Road, Y Barri CF63 4RU, Rhif Ffôn: (01446) 700111