Vale of Glamorgan Council

Text Only


Hafan > Ein Cyngor > Council tax & housing benefits > Beth ydy Treth y Cyngor?
Byw | Gweithio | Mwynhau | Ein Cyngor
English
Dyled a thalu dyled

Beth ydy Treth y Cyngor?

 

Treth y Cyngor ydy’r dreth leol ar eiddo domestig y mae awdurdodau lleol yn ei ddefnyddio i godi arian i dalu am ryw 20% o’r gost o gynnal gwasanaethau lleol fel Addysg, Gwasanaethau Cymdeithasol, Casglu Sbwriel ayb.

 

Treth ar eiddo sydd ag elfen bersonol yn perthyn iddi ydy Treth y Cyngor. Mae’r elfen eiddo wedi’i seilio ar fand prisio’r eiddo. Mae’r elfen bersonol yn rhoi ystyriaeth i’r nifer o bobl dros 18 sy’n byw mewn eiddo, gan roi disgownt o dan rhai amgylchiadau.

 

Talu'ch Treth Cyngor

Dyma ble i gyfrifo eich band prisio

 

Dysgwch sut mae'r Cyngor yn gwario eich Treth Cyngor (PDF)

 

Ein hymdrechion i rwystro twyll

 

Mae’r cyngor yn rhan o gynllun ar draws y Deyrnas Gyfunol.  Mae’r Comisiwn Cyfrifo’n cadw golwg ar bob hawliad a thaliad er mwyn sicrhau nad oes taliadau ffug yn digwydd.

 

Mae’r cyngor yn darparu gwybodaeth fanwl i’r comisiwn er mwyn eu galluogi i ddod o hyd i dwyllwyr ac i rwystro twyll.

 

Un o brif ddyletswyddau’r cyngor yw diogelu arian y cyhoedd.  Mae gan y cyngor yr hawl, a’r ddyletswydd, i rannu gwybodaeth gydag unrhyw gorff sy’n gyfrifol am wario arian cyhoeddus ac am weinyddu arian cyhoeddus er mwyn rhwystro a darganfod twyll.



Return to Graphics Mode
| Hafan | Newyddion Diweddaraf | chwilia | Help | Ymwadiad | Cymraeg teitl. |