Croeso i
Gyngor Bro Morgannwg

 

Budd-daliadau

 

Beth am ddefnyddio'n cyfrifianell budd-daliadau er mwyn darganfod faint o arian sydd ar gael i chi? (Saesneg yn unig)

 

Beth yw budd-dal tai a budd-dal y dreth gyngor?

Cymorth i dalu'ch rhent a’ch treth os ydych ar incwm isel neu'n ddi-waith.

 

Mae tri math o fudd-dal:Talu'r dyledion

  • ad-daliad rhent
  • lwfans rhent 
  • budd-dal y Dreth Gyngor.

Enw’r budd-dal i denantiaid y cyngor yw’r Ad-daliad Rhent.  Enw’r budd-dal i denantiaid preifat (gan gynnwys tenantiaid cymdeithasau tai) yw’r Lwfans Rhent. Mae’r un drefn yn bodoli gyda rhent.  Enw’r budd-dal yw Budd-dal y Dreth Gyngor. Mae yna fudd-dal arall, sef yr Ad-daliad Ail Oedolyn; mae’r manylion islaw.

 

Y Llywodraeth sy’n creu’r cyfreithiau sy’n rheoli’r drefn. Cyngor Bro Morgannwg sy’n eu gweithredu.

 

Mae hawl gan unrhyw un i geisio am fudd-dal tai os ydyn nhw’n talu rhent i:

  • landlord preifat
  • cymdeithas dai
  • cyngor sir / awdurdod lleol.

Mae angen i ni wybod faint o arian sy’n dod i mewn pob mis, faint o arian sydd wedi ei gynilo, pwy sy’n byw yn y tŷ, beth yw eu hamgylchiadau a beth yw eu hoedran.

 

Mae gan unrhyw un sy’n talu’r Dreth Gyngor yr hawl i geisio am Fudd-dal y Dreth Gyngor.  Mae angen i ni wybod faint o arian sy’n dod i mewn pob mis, faint o arian sydd wedi ei gynilo, pwy sy’n byw yn y tŷ, beth yw eu hamgylchiadau a beth yw eu hoedran.

 

Ad-daliad ail oedolyn

Os nad ydych yn gyfrifol am dalu’r Dreth Gyngor, mae’n bosibl y bydd y person sydd yn gyfrifol am dalu’r dreth yn gallu hawlio Ad-daliad Ail Oedolyn.

 

Gellir hawlio’r ad-daliad os nad os nad oes gan y person yna gymar ac os oes yna bobl eraill dros 18 oed yn y tŷ.

 

Pwy sy’n cael ceisio?

Mae rheolau ynglŷn â phwy sy’n cael derbyn y budd-daliadau yn gymhleth.  Felly holwch. Rydyn ni yma i helpu.

 

Ffurflen gais budd-dal tai (Saesneg yn unig)

 

Canllaw – cymorth wrth gwblhau’r ffurflen

Cadwch y ddogfen yma wrth law wrth i chi lenwi'r ffurflen gais:

 

Gwybodaeth am fudd-dal tai (Saesneg yn unig)

 

Cysylltu

Cyfarwyddwr Adnoddau

Cyngor Bro Morgannwg

Holton Road

Y Barri

CF63 4RU

 

01446 709244

benefits@valeofglamorgan.gov.uk

Cyngor Bro Morgannwg, Swyddfeydd Dinesig, Holton Road, Y Barri CF63 4RU, Rhif Ffôn: (01446) 700111