Croeso i
Gyngor Bro Morgannwg

 

AnableddDyn ifanc wrth ei waith

 

Mae’r cyngor wedi ymrwymo i gydraddoldeb i bawb.  Mae hyn yn cynnwys y cyfle i weithio gyda ni, ac i ddefnyddio’n gwasanaethau a’n cyfleusterau.

 

Rydym wedi mabwysiadu’r model cymdeithasol o anabledd:

  • nid yw’r esgymuno cymdeithasol mae llawer o bobl anabl yn ei ddioddef yn deillio o’r anabledd, ond yn hytrach o agweddau neu amgylchiadau.

Ein dyletswydd yw ceisio chwalu’r rhwystrau, gan sicrhau bod ein gwasanaethau ar gael i bawb.  Rydym wrthi’n addasu neu’n dileu unrhyw bolisïau neu weithgareddau sy’n rhoi pobl anabl dan anfantais.

 

Rhaid cael cymorth pobl anabl.  Os ydych yn berson anabl, neu’n cynrychioli person anabl, rhowch wybod i ni am unrhyw beth sydd angen ein sylw.

 

Swyddi

 

Mae yna wybodaeth berthnasol ar y dudalen hon, a chyfle i ddarllen am brofiadau un o’n gweithwyr.

 

Defnyddio ein gwasanaethau

 

Dyma’r dudalen am hyd a lled ein gwasanaethau ar gyfer pobl anabl.

 

Canolfannau hamdden

 

Dyma ble mae gwybodaeth berthnasol am ein canolfannau, a chysylltiadau i dudalennau perthnasol.

 

Llyfrgelloedd

 

Gwybodaeth berthnasol ynglŷn â’n llyfrgelloedd.

 

Polisïau

 

Wrth greu polisïau a threfniadau ar gyfer pobl anabl, rydym yn dilyn y Polisi Cyfle Cyfartal a’r Cynllun Cydraddoldeb Pobl Anabl.

Cyngor Bro Morgannwg, Swyddfeydd Dinesig, Holton Road, Y Barri CF63 4RU, Rhif Ffôn: (01446) 700111