Croeso i
Gyngor Bro Morgannwg

 

Sut i hawlio budd-daliadau

 

Mae'n rhaid i chi gwblhau ffurflen gais yn llawn a chywir.  Mae ffurflenni gwahanol ar gyfer amgylchiadau gwahanol.  Cysylltwch â ni (manylion islaw) i ddysgu mwy.Y dreth gyngor

 

Os ydych yn ceisio am Gymhorthdal Incwm (income support) neu Lwfans Chwilwyr am Swydd (jobseekers’ allowance) yna mi fedrwch geisio am y budd-daliadau yn eich Canolfan Gwaith.  Peidiwch ag oedi - mae’n bosib y bydd hynny’n golygu eich bod yn colli arian.  Anfonwch y ffurflen yn gyntaf, ac (os oes raid) y dogfennau perthnasol wedyn.

 

Y camau cyntaf

 

Cofiwch sicrhau hyn cyn anfon eich cais:

  • a oes gennych chi a/neu eich cymar dros £16000 mewn cynilon neu gyfalaf?  Os felly, ni fyddwch yn derbyn budd-daliadau
  • a ydych yn byw gyda pherthnasau agos?  Os felly, ni fyddwch yn derbyn budd-daliadau
  • a ydych yn talu rhent ar y tŷ rydych yn byw ynddo?  Os felly, fyddwch chi ddim yn cael budd-dal tai
  • ai chi (neu eich cymar) sy’n gyfrifol am dalu’r dreth gyngor?  Os nad chi sy’n gyfrifol, fyddwch chi ddim yn cael budd-dal y dreth gyngor.

Beth i’w gynnwys gyda’r ffurflen gais

 

Cofiwch anfon y ffurflen cyn y dogfennau, os oes raid – ond cofiwch anfon y ffurflenni pan maen nhw’n dod i law!

  • prawf o’ch enw (pasbort, trwydded yrru, ac yn y blaen)
  • prawf o rif yswiriant cenedlaethol pawb perthnasol (sy’n ymddangos ar lawer o ddogfennau swyddogol, er enghraifft llyfr pensiwn)
  • prawf o’ch incwm a’ch cynilon
  • prawf o’r rhent rydych yn ei dalu (llyfr rhent, eich cytundeb ac yn y blaen)
  • prawf o unrhyw fudd-dal plant rydych yn ei dderbyn
  • prawf o incwm pob oedolyn arall yn y tŷ (hynny yw, pawb dros 18 oed).
Cyngor Bro Morgannwg, Swyddfeydd Dinesig, Holton Road, Y Barri CF63 4RU, Rhif Ffôn: (01446) 700111