Croeso i
Gyngor Bro Morgannwg

Dechrau cyfri’n ôl i Eisteddfod Genedlaethol Y Fro yn Llandŵ

 

Cyhoeddwyd 30 Ionawr 2012

 

I nodi chwe mis tan ddechrau’r Eisteddfod Genedlaethol ym Mro Morgannwg ar 4 Awst 2012, mae Cyngor Bro Morgannwg yn gosod cloc cyfri’n ôl ar ei wefan, http://www.bromorgannwg.gov.uk/. Mae’r Eisteddfod yn ymweld â’r ardal am y tro cyntaf ers 1968, ac mae disgwyl mawr amdani.

 

Mae’r cloc yno i atgoffa trigolion y Fro bod amser ganddyn nhw i gymryd rhan mewn gweithgareddau i godi arian ar gyfer y digwyddiad yn Llandŵ, a all ddisgwyl croesawu hyd at 165,000 o ymwelwyr.

 

Bydd y cloc, sydd wedi ei rannu’n ddiwrnodau, oriau a munudau, hefyd yn atgoffa pobl am ddyfodiad cyffro’r Brifwyl ymhen misoedd yn unig.

 

Dywedodd arweinydd Cyngor Bro Morgannwg, y Cynghorydd Gordon Kemp: “Mae’r Eisteddfod Genedlaethol yn Ŵyl ddiwylliannol bwysig yn rhyngwladol, ac mae’n dathlu nid yn unig elfennau cryfaf Cymru, ond a fydd hefyd yn denu nifer fawr o ymwelwyr i Fro Morgannwg.

 

“Bydd y cloc cyfri’n ôl yn adlewyrchu’r cynnydd yn y cyffro pan fydd cyfnod yr Eisteddfod yn dod yn nes, a’r paratoadau’n prysuro.

 

“Mae hwn yn gyfle gwych i gynyddu proffil y Fro, yn enwedig i’r trefi sydd agosaf at Landŵ, sef Y Bont-faen a Llanilltud Fawr.”

 

Mae tudalennau’r Eisteddfod ar wefan Cyngor Bro Morgannwg yn cynnwys gwybodaeth am y Brifwyl a’i chystadlaethau yn ogystal â’r newyddion diweddaraf. Gallwch chi hefyd ganfod gwybodaeth ar wefan y Cyngor am atyniadau’r Fro, o’r dirwedd i’r adnoddau hamdden.

 

Buasai’r Cyngor yn hoffi clywed gan drigolion y Fro sy’n cofio’r tro diwethaf y daeth yr Eisteddfod i’r Fro yn 1968.

 

Os oes gyda chi atgofion, lluniau neu greiriau yr hoffech eu rhannu, e-bostiwch nhw at:  webpublish@valeofglamorgan.gov.uk.

 

I weld tudalen Eisteddfod y Fro ar wefan y Cyngor, ewch i: http://www.valeofglamorgan.gov.uk/enjoying/eisteddfod_2012.aspx?lang=cy-gb

Cyngor Bro Morgannwg, Swyddfeydd Dinesig, Holton Road, Y Barri CF63 4RU, Rhif Ffôn: (01446) 700111