Cabinet y Fro yn ymweld â Llanilltud Fawr
8 Hydref 2012
Cynhelir cyfarfod Cabinet cymunedol nesaf Cyngor Bro Morgannwg
yn Llanilltud Fawr dydd Llun 15 Hydref am 6pm.
Bydd yn cael ei gynnal yng Nghanolfan Hamdden Llanilltud Fawr ar
Ham Lane East, nid yn Neuadd y Dref fel y cyhoeddwyd yn gynharach.
Mae croeso i bawb a bydd cyfle i'r gynulleidfa holi aelodau'r
Cabinet ar ddiwedd y cyfarfod.
Ar hyn o bryd, mae'r Cabinet yn cwrdd yn gyhoeddus yn y
Swyddfeydd Dinesig bob pythefnos, ond bydd ynifer ddethol o'r
cyfarfodydd yma'n cael eu cynnal mewn amryw o leoliadau o hyn
ymlaen. Cynhaliwyd y cyfarfod cyntaf yn y gymuned yn Y Barri ym mis
Gorffennaf, a bu'n llwyddiant mawr.
Dywedodd y Cynghorydd Neil Moore, Arweinydd y Cyngor: "Byddwn ni
wrth gwrs yn parhau i gwrdd am 2pm yn y Swyddfeydd Dinesig am yn
ail ddydd Llun. Croeso i aelodau'r cyhoedd fynychu unrhyw un o'r
cyfarfodydd hyn."
Cynhelir cyfarfod ar ym Mhenarth ar 21 Ionawr 2013, ac yn Y
Bont-faen ar 22 Ebrill 2013. Bydd pob cyfarfod yn dechrau am 6pm.
Mae'r lleoliadau i'w cadarnhau.