Hwyl dros hanner tymor yn y Fro
Cyhoeddwyd 22 Hydref 2012
Mae hanner tymor yr hydref ym Mro Morgannwg yn llawn dop o
ddigwyddiadau i'r teulu cyfan eu mwynhau.

Ar y penwythnos cyntaf, dydd Sadwrn 27 a dydd Sul 28 Hydref, mae
Gŵyl Bwyd a Diod Y Bont-faen yn dod â blas ac awch i'r Fro.
Gyda stondinau, arddangosiadau a gweithgareddau hwyliog i'r plant,
mae'n hawdd gweld pam bod hwn yn un o uchafbwyntiau calendr
blynyddol y dref.
Dydd Llun 29 Hydref, mae Gŵyl Lyfrau gyntaf Penarth yn cael ei
chynnal. Bydd ymweliadau gan awduron, sesiynau llofnodi,
trafodaethau a darlleniadau'n digwydd yma. Cynhelir noson chwaraeon
yng nghwmni'r cyflwynydd teledu Fran Donovan a'r gohebydd rygbi
uchel ei barch Peter Jackson. Bydd plant wrth eu bodd i gwrdd
â Peppa Pinc mewn digwyddiad arbennig dydd Iau 1 Tachwedd.
Digwyddiadau chwaraeon a hwyl Menter y Fro a'r Urdd
Mae amrywiaeth o weithgareddau ar hyd y Fro wedi cael eu trefnu
ar gyfer hanner tymor. O chwaraeon i sesiynau ffeltio a chwarae
meddal, mae'r holl fanylion yma. Gobeithio y
gallwch ddod i fwynhau bwrlwm yr hwyl.
Digwyddiadau Calan Gaeaf
Gerddi Dyffryn, Sain Niclas
Rhif ffôn: 029 2059 3328
Gwefan: http://www.dyffryngardens.com/
Taith Gerdded
Sadwrn 27 Hydref - Sul 4 Tachwedd,
10am - 4pm
Dewch â'ch esgidiau tywydd gwlyb i fwynhau
(efallai!) taith gerdded dywyll a bwganllyd o gwmpas y
gerddi.
Pris: Oedolion £7, plant £2.75,
gostyngiadau £4.75, teulu (dau oedolyn, hyd at bedwar plentyn)
£18

Nosweithiau Calan
Gaeaf
6pm – 8.30pm
Ymunwch â ni am ddwy noson o ddigwyddiadau
iasoer, gan gynnwys ein taith gerdded frawychus, straeon arswyd,
gwneud mygydau erchyll, a'r Ysgol Hud gyda'r Athro Ddewin Simon
Sparkles. Dewch i ddysgu sut i wneud triciau hud go iawn gartref,
sut i wneud i wrthrychau ddiflannu a sut i ddarllen meddyliau.
Gallwch chi hefyd fwynhau'n sioe hud a lledrith iasoer. Tocynnau
ymlaen llaw yn unig.
Pris: oedolion £7, plant/gostyngiadau
£5, teulu (2+2) £20
Parc Victoria, Tregatwg, Y Barri
Rhif ffôn: 07809 551465
Dawns Fwystfilaidd Calan
Gaeaf
Mer 31
Hydref, 4pm - 7pm
Noson frawychus,
fwganllyd yn y parc, gyda disco bwystfilod yn y bandstand. Mae
cystadlaethau a gwobrau yn nosbarth gwisg ffansi - i blant a rhieni
- a'r bwmpen orau wedi'i cherfio. Dewch i ymuno yn yr
hwyl.
Cofiwch
ddod â thortsh a dillad twym.
Mynediad am ddim