Croeso i
Gyngor Bro Morgannwg

Canfasio ar riniog y drws i ddigwydd ym Mro Morgannwg

 

6 Medi 2012

 

Bydd canfaswyr yn ymweld â thrigolion Bro Morgannwg i ddiweddaru'r gofrestr etholiadol mewn da bryd ar gyfer etholiadau Comisiynydd yr Heddlu a Throseddu ar 15 Tachwedd.

 

Bydd y canfaswyr, a fydd yn gweithio ar ran Cyngor Bro Morgannwg, yn galw yn nhai pobl o ddydd Sadwrn 15 Medi tan ddydd Sadwrn 30 Medi 2012.

 

Dywedodd Swyddog Cofrestru Etholiadol y Cyngor, Rebecca Light, “Hoffen ni roi gwybod i drigolion y Fro y bydd canfaswyr yn gweithio yn yr ardal cyn hir, yn enwedig oherwydd adroddiadau fod troseddwyr wedi bod yn ffugio bod yn ganfaswyr i ddwyn gwybodaeth bersonol mewn rhannau eraill o Gymru.

 

“Bydd ein canfaswyr dim ond yn gofyn am enwau pobl dros 16 sy'n byw yn y tŷ'n barhaol nad sydd efallai wedi dychwelyd y ffurflen ganfasio flynyddol. Efallai bydd canfaswyr yn gofyn cenedl y person a'u dyddiad geni os ydyn nhw'n 16 neu'n 17 oed. Fyddan nhw ddim yn gofyn am unrhyw wybodaeth bersonol arall, fel rhifau yswiriant cenedlaethol.

 

“Os oes unrhyw un yn pryderu am ganfasydd, cysylltwch ag adran gyswllt y Cyngor ar 01446 700111.”

 

Am wybodaeth bellach, cysylltwch â thîm cofrestru etholiadol y Fro ar 01446 709570.

Cyngor Bro Morgannwg, Swyddfeydd Dinesig, Holton Road, Y Barri CF63 4RU, Rhif Ffôn: (01446) 700111