Rhwydweithio Cymdeithasol a Chyngor Bro Morgannwg

Grŵp Vale of Glamorgan Life ar Facebook
Mae tudalen Facebook newydd wedi cael ei sefydlu i
drigolion, busnesau a sefydliadau i rannu gwybodaeth am bopeth sy'n
ymwneud â bywyd ym Mro Morgannwg. Mae croeso i
drigolion y Fro rannu gwybodaeth, lanlwytho lluniau a hyrwyddo
digwyddiadau sydd o ddiddordeb i gyd-drigolion ar y dudalen
hon Vale of Glamorgan
Life.
Cyngor Bro Morgannwg yn
trydar
Mae newyddion dyddiol a diweddariadau
gwybodaeth am y Fro ar gael o ffrwd trydar Cyngor Bro Morgannwg
ar Twitter, a'r cyfan
mewn 140 symbol neu lai.

Art Central ar Facebook
Am y wybodaeth ddiweddaraf am arddangosfeydd,
cyfleoedd ym maes celf, a newyddion o'r Fro. Dewch i drafod celf ac
Art Central gyda ni ar dudalen Facebook Art
Central. (Saesneg yn unig)