Beth ydy Craffu?
Rôl y Pwyllgorau Craffu ydy edrych ar y gwasanaethau a’r
materion sy’n effeithio ar fywydau pobl ym Mro Morgannwg.
Mae’n golygu gwrando ar bobl leol, herio a dylanwadu’r broses o
wneud penderfyniadau a, lle bo angen, ceisio gwelliant er lles y
cyhoedd.
Mae craffu yn rhan allweddol o strwythur gwleidyddol y Cyngor ac
yn chwarae rôl bwysig yn y gwaith o sicrhau bod gwasanaethau’r
Cynagor yn cael eu cyflwyno’n effeithiol ac yn effeithlon er mwyn y
trigolion a’r rheiny sy’n gweithio neu’n ymweld â Bro
Morgannwg.
Dim ond y Cynghorwyr sydd ddim yn perthyn i’r Cabinet sy’n cael
bod yn aelodau o’r Pwyllgorau Craffu. Gwaith y pwyllgorau ydy
dylanwadu ar y penderfyniadau a wneir gan y Cabinet er mwyn sicrhau
bod safbwyntiau ac anghenion y gymuned yn cael eu cymryd i
ystyriaeth.
Mwy o wybodaeth am y pwyllgorau craffu, a
sut i gymryd rhan