Y Gwasanaeth Trwyddedu
Rydym yn gyfrifol am drwyddedu amryw o wahanol
weithgareddau:
- tacsis
- gwerthu alcohol
- siopau anifeiliaid anwes
- masnachu ar y strydoedd
a llawer mwy.
Ein hamcan yw sicrhau diogelwch y cyhoedd,
lles anifeiliaid, a safon byw uchel i drigolion Bro
Morgannwg. Rydym yn cyfyngu ar amodau trwyddedau er mwyn
sicrhau hyn ac yn arolygu’r cytundeb yn aml er mwyn sicrhau bod y
bobl sy’n dal y drwydded yn cadw at ei hamodau.
Rydym yn cydweithio’n agos gyda gwasanaethau
cyhoeddus eraill fel yr heddlu, y gwasanaeth tân ac adrannau’r
cyngor fel Iechyd yr Amgylchedd i sicrhau eich diogelwch.
Nodwch
Mae cyfreithiau gwerthu alcohol, adloniant
cyhoeddus a lluniaeth yn yr oriau mân wedi newid. Dyma’r
manylion.
Cysylltwch:
Yr Adran Drwyddedu
Cyngor Bro Morgannwg
Holton Road
Y Barri
CF63 4RU
Rhif ffôn: 01446 700 111
E-bost: licensing@valeofglamorgan.gov.uk
Oriau swyddfa
Llun i Iau 08:45 - 16:30
Gwener 08:45- 16:00