Safonau Masnachu fel Gyrfa
Os ydych chi â’ch bryd a’r ddilyn gyrfa ym maes safonau masnachu gallwch ddisgwyl cael swydd sy’n gyffrous ac yn ymchwilgar dros ben. Mae’n fath o waith sy’n gofyn am y gallu i wynebu sialens ac ysgwyddo cyfrifoldeb ar yr un pryd. Fel gweithiwr proffesiynol yn y maes, byddwch yn cael effaith sylweddol ar fywydau pobl ac yn cael cyfle i wneud gwahaniaeth go iawn.
Byddwch yn helpu i ddiogelu pobl a busnesau gonest rhag masnachwyr twyllodrus ac arferion anghyfreithlon. Byddwch yn aelod o dîm sy’n cynghori, yn dwyn perswâd a phan fo’r angen, sy’n erlyn.
Mae’r gwaith yn amrywio’n arw ac yn dibynnu ar natur eich swydd chi, byddwch yn cael y cyfle i ddelio ag amrywiaeth eang o bobl a sefyllfaoedd. Gallwch ddisgwyl cael llwyth gwaith go amrywiol hefyd, gan y byddwch yn delio â meysydd fel nwyddau diogel, iechyd anifeiliaid, credyd defnyddwyr, bwyd, nwyddau ffug a llawer iawn mwy.
Mae’r manteision yn amlwg:
Boddhad o weithio dros y gymuned yr ydych chi hefyd yn aelod ohoni.
Gyrfa wirioneddol ddiddorol ac ymestynnol ac, er nad oes dim sicrwydd i’w gael yn y byd sydd ohoni, mae yna alw mawr am swyddogion safonau masnachu cymwys felly byddwch yn siŵr o gael gwaith.
Ar ôl cael swydd, rydych yn siŵr o gael cyfle i ddatblygu’ch gyrfa. Cewch eich annog i ddatblygu’ch sgiliau proffesiynol a phersonol, er mwyn ennill y sgiliau, y cymwysterau a’r profiad sydd ei angen arnoch i ddringo’r ysgol.
Mae’n broffesiwn bywiog ac amrywiol, gyda chyfleoedd i weithio mewn timau ac ar eich liwt eich hun.
Am fwy o wybodaeth ar sut i ddod yn Swyddog Safonau Masnachu, ewch i http://www.tscareers.org.uk/