Addysg a Sgiliau

Ysgolion Eco

 

Mae Rhaglen Ysgolion Eco yn annog disgyblion i fynd i’r afael â materion sy’n ymwneud â’r amgylchedd a datblygu cynaliadwy.

 

Rhoddir pwyslais ar leihau sbwriel a gwastraff, er bod modd i ysgolion ganolbwyntio ar gludiant, byw’n iach, arbed ynni a dŵr, neu ddatblygu tiroedd ysgol.

 

Mae’r disgyblion yn cymryd rhan flaenllaw yn y gwaith o wneud penderfyniadau mewn ymdrech i leihau effaith yr ysgol ar yr amgylchedd. Fel hyn, mae Ysgolion Eco'n ymestyn addysg y tu hwnt i’r ystafell ddosbarth ac yn datblygu ymdeimlad o ddinasyddiaeth gyfrifol yn y cartref ac yn y gymuned.

 

Daeth Baner Werdd Ewropeaidd Ysgolion Eco, a ddyfernir i’r ysgolion gyda’r rhaglenni mwyaf llwyddiannus, yn label eco cydnabyddedig ac uchel ei barch ar gyfer Addysg dros Ddatblygiad Cynaliadwy. Mae’r rhaglen ei hun yn weithgaredd tymor hir, a ail-asesir ac a adnewyddir bob dwy flynedd.

 

Ar hyn o bryd mae yna ryw 8000 o Eco-Ysgolion cofrestredig mewn 23 o wledydd Ewrop gan gynnwys 3800 yn y D.U. a mwy na 760 yng Nghymru. Maent ar hyd a lled 22 Awdurdod Lleol yng Nghymru, ac maent yn cynnwys ysgolion babanod, cynradd, uwchradd ac anghenion arbennig.

 

Cyswllt:

Datblygwyd y cynllun gan y Sefydliad ar gyfer Addysg Amgylcheddol (FEE), a chaiff ei reoli yng Nghymru gan ymgyrch Cadwch Gymru'n Daclus. Cysylltwch â nhw yn y cyfeiriadau isod:

 

33-35 Heol y Gadeirlan

Caerdydd

CF11 9HB

Rhif ffôn: 029 2025 6767

 

NEU:

 

Tŷ’r Harbwr

Y Cei Lechi

Caernarfon

LL55 2PB

Rhif ffôn: 01286 674081

 

Mae’r holl ddeunyddiau ar gael yn y Gymraeg a’r Saesneg ac am ddim i ysgolion sydd wedi cofrestru.

Cyngor Bro Morgannwg, Swyddfeydd Dinesig, Holton Road, Y Barri CF63 4RU, Rhif Ffôn: (01446) 700111