Education and Skills

Cludiant i’r Ysgol – Ysgolion Prif Ffrwd

 

on the busYn gyffredinol cyfyngir cludiant am ddim i’r ysgol i ddisgyblion sy’n mynychu ysgol y dalgylch lleol ac sy’n byw o fewn y pellter angenrheidiol i’r ysgol.

 

Mae’r ddyletswydd statudol ar yr Awdurdod Addysgu Lleol i ddarparu cludiant am ddim i’r ysgol i ddisgyblion oed ysgol statudol sy’n byw tu hwnt i’r pellter cerdded i’r ysgol briodol agosaf. Nid yw’r Cyngor yn darparu cludiant am ddim i’r ysgol i blant oed Meithrin ac eithrio rhai o’r rheiny sydd gyda Datganiad o Anghenion Addysgol Arbennig (AAA)

 

Diffinnir y gyfraith o ran y pellter cerdded i’r ysgol fel dwy filltir ar gyfer plant o dan wyth oed a thair milltir ar gyfer disgyblion wyth oed a throsodd, fel y mesurwyd yn ôl y llwybr agosaf.

 

Wedi dweud hyn mae Cyngor Bro Morgannwg wedi defnyddio ei hawl orddewisol ac yn darparu cludiant am ddim i’r ysgol i ddisgyblion fel a ganlyn:

 

§ ar gyfer disgyblion oed cynradd sy’n byw mwy na 2 filltir oddi wrth eu hysgol agosaf neu ysgol ddynodedig y dalgylch.

§ ar gyfer disgyblion uwchradd sy’n byw mwy na thair milltir o’u hysgol agosaf neu ysgol uwchradd ddynodedig y dalgylch. Mae’r maen prawf yma’n berthnasol i ddisgyblion ol 16 ar hyn o bryd.

 

Os oes hawl gyda’ch plentyn chi i gael cludiant i’r ysgol am ddim, bydd yn cael caniatâd i deithio ar gerbyd contract arbennig os oes un yn gwasanaethu yn eich ardal. Fel arall darperir tocyn bws i’r disgybl deithio ar wasanaeth y rhwydwaith.

 

Fodd bynnag, ni ddarperir cludiant i’r ysgol os bydd eich plentyn, o ganlyniad i’ch dewis chi fel rhieni, yn mynychu ysgol arall yn hytrach na’r ysgol briodol agosaf neu ysgol ddynodedig y dalgylch. O dan yr amgylchiadau yma, disgwylir i’r rhieni dderbyn cyfrifoldeb llawn am y costau a’r trefniadau.

 

Manylion a dogfennau polisi Cludiant i Ysgolion Prif Ffrwd - Cludiant i'r Ysgol - Y Polisi a'r Ddarpariaeth.

 

Manylion a dogfennau polisi Cludiant i Ysgolion Arbennig -

 

Manylion a dogfennau polisi cludiant i ddysgwyr 16 – 19 oed a addysgir mewn ysgolion a sefydliadau addysg bellach/uwch

 

Dylid cyfeirio unrhyw gwynion, sylwadau neu ymholiadau ynglŷn â’r ddarpariaeth i ‘r cyfeiriad canlynol:

 

Cyngor Bro Morgannwg

Yr Adran Gynllunio a Thrafnidiaeth

Uned Trafnidiaeth Gyhoeddus

Swyddfa’r Doc

Dociau’r Barri

Y Barri

Bro Morgannwg

CF63 4RT

 

Rhif Ffôn: 01446 704664 / 646 / 687

Ffacs 01446 704891

Cyngor Bro Morgannwg, Swyddfeydd Dinesig, Holton Road, Y Barri CF63 4RU, Rhif Ffôn: (01446) 700111