Croeso i
Gyngor Bro Morgannwg

Tîm Diogelwch Bwyd

 

Nod Tîm Diogelwch Bwyd y Fro yw diogelu defnyddwyr a gweithwyr ym Mro Morgannwg rhag salwch a achosir gan fwyd, bwyd anaddas neu fwy sydd wedi ei heintio, bwyd â labeli camarweiniol neu anghywir arno a gweithleoedd bwyd gwael ac anniogel.

 

Rydym ni’n ceisio sicrhau bod eiddo bwyd yn cydymffurfio â Deddf Diogelwch Bwyd 1990 a rheoliadau eraill drwy archwilio, samplo, gorfodi ac addysgu mewn safleoedd sy’n ymdrin â bwyd. Rydyn ni hefyd yn gweithio i ddiogelu iechyd a diogelwch gweithwyr a’r bobl sy’n ymweld â safleoedd bwyd ym Mro Morgannwg.

 

Mae’r Tîm Diogelwch Bwyd yn gyfrifol am y meysydd canlynol:

 

Diogelwch Bwyd

  • Archwilio busnesau bwyd lleol i orfodi safonau glendid ac arferion hylendid da
  • Archwilio i gwynion am hylendid neu fwyd wedi ei heintio
  • Dethol bwyd ar hap i’w samplo a gweld os ydyw’n ddiogel i’w fwyta
  • Cynnig cyngor i fusnesau newydd a busnesau sefydledig ar faterion diogelwch bwyd
  • Cyflwyno Gwobrau Hylendid Bwyd (aur, arian ac efydd) i berchenogion busnesau bwyd cymwys
  • Rhoi cymeradwyaeth i fusnesau sy’n dymuno trin cynnyrch penodol mewn safle.

Heintiau Trosglwyddadwy

Ymchwilio ac yna rhoi mesurau ar waith i reoli lledaeniad clefyd trosglwyddadwy gan gynnwys salwch sy’n gysylltiedig â bwyd sy’n tarddu o fusnesau bwyd ym Mro Morgannwg.

Helpu gydag ymchwiliadau i achosion o wenwyn bwyd pan fydd trigolion y Fro’n cael eu heffeithio gan fwyd sydd wedi ei heintio tu allan i’r ardal.

 

Iechyd a Diogelwch

  • Archwilio safleoedd bwyd er mwyn eu gorfodi i gydymffurfio â safonau iechyd a diogelwch yn y gweithle
  • Ymchwilio i ddamweiniau mewn saf;eoedd bwyd a chymryd y camau gorfodaeth angenrheidiol
  • Cynnig cyngor ac arweiniad i safleoedd bwyd mewn perthynas â materion iechyd a diogelwch.
Cyngor Bro Morgannwg, Swyddfeydd Dinesig, Holton Road, Y Barri CF63 4RU, Rhif Ffôn: (01446) 700111