Croeso i
Gyngor Bro Morgannwg

 

Ffliw’r moch

 

Y diweddaraf am ffliw’r moch

 

Person sneezing

 

Sut mae’r cyngor yn paratoi?

 

Mewn ymateb i’r rhybudd diweddar, mae’r cyngor wedi sefydlu Tîm y Prif Swyddog o dan arweinyddiaeth Alun Billinghurst, Pennaeth Diogelu’r Cyhoedd.  Dyletswydd y tîm yw sicrhau bod y cyngor yn parhau i weithredu os oes pandemig yn taro.

 

Mae’r tîm yn cadw mewn cysylltiad agos gyda chyrff eraill perthnasol, yn eu plith:

  • y cynghorau sy’n ffinio â’r Fro
  • Heddlu’r de
  • Asiantaeth yr amgylchedd
  • y gwasanaethau iechyd
  • y gwasanaethau brys.

Ysgolion

 

Rydym yn rhagweld y bydd nifer achosion ffliw’r moch yn parhau i gynyddu.  Dyma gyngor Llywodraeth y Cynulliad:

 

Dylai gweithwyr a disgyblion aros gartref tan y maen nhw wedi gwella ac maen nhw wedi gorffen eu triniaeth feddygol.  Os oes rhywun yn datblygu’r symptomau yn ystod y dydd, dylid eu hanfon adref.  Dylai perthnasau barhau i fynychu’r ysgol, os nad ydynt yn dangos symptomau.

 

Rydym yn annog ysgolion i fod yn wyliadwrus ac i gynnal safonau glendid uchel:

  • ymolchi dwylo’n aml, gyda sebon a dŵr, rhag ofn ymledu’r firws
  • golchi pethau mae pobl yn eu cyffwrdd yn aml, er enghraifft handlenni drws, yn aml gyda chynnyrch golchi arferol
  • gorchuddio ceg a thrwyn wrth disian a thagu
  • cael gwared ar ddeunydd sychu trwyn ar unwaith ac yn ddiogel
  • sicrhewch fod plant bach yn dilyn y drefn.
Cyngor Bro Morgannwg, Swyddfeydd Dinesig, Holton Road, Y Barri CF63 4RU, Rhif Ffôn: (01446) 700111