Croeso i
Gyngor Bro Morgannwg

Llyfrgell Penarth

Llyfrgell Penarth

 

Hygyrchedd

Mae modd cyrraedd y fynedfa â ramp neu risiau. Y tu mewn i’r adeilad, mae lifft ar gael i’r llawr cyntaf ac i’r llawr isaf. Mae dolen sain ar gael ar y cownter. Mae nifer cyfyngedig o fannau parcio ar y stryd y tu allan i’r llyfrgell.

 

Yr hyn rydyn ni’n ei gynnig

Mae gan Lyfrgell Penarth ddewis eang o nofelau a llyfrau ffeithiol i’w benthyca. Mae casgliad sylweddol o ddeunyddiau ar astudiaethau lleol ac achau ac mae Penarth yn ddolen gyswllt ar gyfer gwybodaeth gan y Cynulliad. Mae gan y plant eu llyfrgell eu hunain â llawer o lyfrau lluniau a darllen yn ogystal ag adnoddau i’w helpu gyda’u gwaith cartref a’u diddordebau. Mae cryno ddisgiau, llyfrau sain, tapiau dysgu iaith a DVDs ar gael i’w benthyg, yn ogystal â chyfrifiaduron sy’n cynnig mynediad am ddim i’r rhyngrwyd y gellir eu defnyddio ar gyfer prosesu geiriau a thaenlenni hefyd.

 

 

AMSERAU AGOR  
Dydd Llun  9.30  6.00
Dydd Mawrth  9.30  6.00
Dydd Mercher  9.30  6.00
Dydd Iau  9.30  8.00
Dydd Gwener  9.30  6.00
Dydd Sadwrn

 

Cysylltu

Cyfeiriad:

Heol Stanwell,

Penarth,

CF64 2YT

 

Rhif Ffôn: (029) 2070 8438

Ffacs: (029) 2070 6564

E-bost: PenarthLibrary@valeofglamorgan.gov.uk

Cyngor Bro Morgannwg, Swyddfeydd Dinesig, Holton Road, Y Barri CF63 4RU, Rhif Ffôn: (01446) 700111