Llyfrgell Penarth
Hygyrchedd
Mae modd cyrraedd y fynedfa â ramp neu risiau. Unwaith y tu mewn
i’r adeilad, mae yna lifft ar gael i’r llawr cyntaf ac i’r llawr
isaf. Mae yna ddolen sain ar gael ar y cownter. Mae yna nifer
cyfyngedig o fannau parcio ar y stryd y tu allan i’r llyfrgell.
Yr hyn yr ydym ni’n ei gynnig
Mae gan lyfrgell Penarth ddewis eang o nofelau a llyfrau
ffeithiol i’w benthyca. Mae yna gasgliad sylweddol o ddeunyddiau ar
astudiaethau lleol a hanes teulu ac mae Penarth yn ddolen gyswllt
ar gyfer gwybodaeth gan y Cynulliad. Mae gan y plant eu llyfrgell
eu hunain â llawer o lyfrau lluniau a darllen yn ogystal ag
adnoddau i’w helpu gyda’u gwaith cartref a’u diddordebau. Mae Cryno
Ddisgiau, Llyfrau Sain, tapiau dysgu iaith a DVDs ar gael i’w
benthyg, yn ogystal â chyfrifiaduron sy’n cynnig mynediad am ddim
i’r rhyngrwyd, y gellir eu defnyddio ar gyfer prosesu geiriau a
thaenlenni hefyd.
Yn ôl Marcus Payne llyfrgellydd y gangen, “Mae Llyfrgell Penarth
yn llyfrgell brysur a chroesawgar wrth ymyl canol y dref. Rydyn
ni’n darparu ystod eang o ddeunyddiau a gwasanaethau i bawb.”
Amser stori
Cynhelir amser stori yn y llyfrgell ar Ddydd Mawrth o 2.00pm i
2.30pm.
| AMSERAU AGOR |
| Dydd Llun |
9.30 |
6.00 |
| Dydd Mawrth |
9.30 |
6.00 |
| Dydd Mercher |
9.30 |
6.00 |
| Dydd Iau |
9.30 |
8.00 |
| Dydd Gwener |
9.30 |
6.00 |
| Dydd Sadwrn |
Cyswllt
Cyfeiriad:
Heol Stanwell,
Penarth,
CF64 2YT
Rhif Ffôn: (029) 2070 8438
Ffacs: (029) 2070 6564
E-bost: PenarthLibrary@bromorgannwg.gov.uk
Cyfarwyddiadau:
Map on Bavalinc website