Adfywio gwledig

 

Cynllun ysgoloriaeth Ysbrydoli’r Fro

 

Os ydych o dan 30 oed ac yn chwilio am gymorth i sefydlu menter arloesol yna dewch atom ni.

 

Mae’r cynllun yn cynnig cymorth i bobl ifanc sy’n gobeithio gweithredu eu syniadau, yn y sector breifat neu’r sector gyhoeddus, fel swydd amser llawn neu ran-amser.  Y bwriad yw annog mentergarwch ac arloesi.  Byddwn yn cynnig cymorth ac anogaeth ar bob cam o’r daith.

 

Mae dau fath o gymorth ar gael, gan ddibynnu ar natur y cynllun a faint o gymorth sydd ei angen.  Mi fydd angen i chi gynnwys cynllun busnes manwl yn eich cais.

 

Pwy sy’n gymwys?

 

Unigolion neu fwy.  Mae’n rhaid i bawb fod o dan 30 oed.  Mae’n rhaid i bawb fyw yn y Fro wledig, neu wedi byw yno rywbryd am gyfnod o bum mlynedd neu fwy.  Mae’r arian ar gyfer cwmnïau newydd yn unig, sy’n annibynnol o unrhyw fusnes sydd eisoes yn bodoli.

 

Enghreifftiau

 

Mae’r arian ar gael i dalu am ymchwil i’r farchnad, cyngor cyfreithiol, cyfrifo, offer hanfodol, marchnata, hyfforddi, rhentu, ymweliadau â chwmnïau tebyg ac yn y blaen.

 

Faint sydd ar gael?

 

1. Ysgoloriaeth “cael blas ar bethau” (taster)

 

Y cymhorthdal yw £1000 neu 75% o’r cyfanswm, pa bynnag yw’r lleiaf.  Mae yna ddisgwyl i ymgeiswyr gyfrannu o leiaf 25% o’r cyfanswm.  Mae uchafswm o £10000 ar gyfer cyfanswm costau dechrau’r busnes o dan yr ysgoloriaeth hon.

 

2. Ysgoloriaeth amser llawn

 

Y cymhorthdal yw £3000 neu 75% o’r cyfanswm, pa bynnag yw’r lleiaf.  Mae yna ddisgwyl i ymgeiswyr gyfrannu o leiaf 25% o’r cyfanswm.  Mae uchafswm o £25000 ar gyfer cyfanswm costau dechrau’r busnes o dan yr ysgoloriaeth hon.

 

Y cam nesaf

 

I drafod eich cais er mwyn gweld a ydych yn gymwys:

 

Nia Hollins

Uwch swyddog adnewyddu gwledig

 

01446 775 388

 

nhollins@valeofglamorgan.gov.uk

Cyngor Bro Morgannwg, Swyddfeydd Dinesig, Holton Road, Y Barri CF63 4RU, Rhif Ffôn: (01446) 700111