Cost of Living Support Icon

Bats FlyingYstlumod

Creaduriaid y nos yw ystlumod, ac maent yn teithio drwy ecoleoliad, sef defnyddio atsain eu gwichian treiddgar i weld, yn debyg i ddolffiniaid. Mae ystlumod yn nythu mewn amryw o lefydd, yn cynnwys ceubrennau, gofodau llofft agored ac ogofâu a thwneli tanddaearol.

 

Credir bod niferoedd pob rhywogaeth o ystlumod yn y DU yn gsotwng oherwydd nifer o ffactorau, yn cynnwys colli cynefin a niferoedd lllai o bryfed (eu bwyd) oherwydd defnydd chwynladdwyr.

 

Ar hyn o bryd, mae ceidwaid y parc yn cynnal arolwg yn y parc i ddarganfod pa rywogaethau sy’n byw yma. Hyd yn hyn, cofnodwyd presenoldeb yr ystlum lleiaf, yr ystlum hirglust brown a’r ystlum cyffredin.

 

Am wybodaeth bellach am ystlumod, ewch i wefan y Bat Conservation Trust – mae taflenni gwybodaeth i’w lawrlwytho a gweithgareddau i ysgolion ar gael (Saesneg yn unig).