Mae ein gwefan yn defnyddio cwcis
Rydym yn defnyddio cwcis ar gyfer gweithrediad gwefannau ac i helpu i ddadansoddi ein traffig er mwyn i ni allu gwella ein gwasanaethau. Mae cwcis angenrheidiol yn helpu i wneud y wefan yn ddefnyddiadwy drwy alluogi swyddogaethau sylfaenol fel llywio tudalen. Ni all y wefan weithredu'n iawn heb y cwcis hyn. Dewiswch eich dewisiadau isod. Gwybodaeth am Gwcis
Galluogi pob cwci Caniatáu dewis
Dewch â hanes yn fyw drwy chwilio ein harchif papurau newydd am hen straeon, colofnau a digwyddiadau hanesyddol. Rydyn ni’n tanysgrifio i amryw o ffynonellau, felly gall ein casgliadau eich helpu p’un a ydych chi’n gweithio ar brosiect ymchwil, gwaith cartref neu achres teulu. Mae’r gwefannau isod yn rhai Saesneg oni nodir fel arall.
I gael mynediad i’n hadnoddau gartref, bydd angen rhif eich cerdyn llyfrgell.
Gwasanaeth ar-lein a ddatblygwyd i ddarparu newyddion Prydeinig, cenedlaethol a lleol. Mar tua 163 o bapurau newydd mwyaf poblogaidd Prydain arni. Ynghyd â phapurau cenedlaethol a rhanbarthol, ceir cylchgronau megis The Economist a The New Statesman. Defnyddiwch Newsstand i ddod o hyd i wybodaeth am bobl, llefydd neu ddigwyddiadau cyfredol, i ddarllen adolygiadau’r llyfrau mwyaf diweddar, i ddilyn materion gwleidyddol y dydd a dod o hyd i’r arddangosfeydd neu’r digwyddiadau yn eich ardal.
Os ydych yn defnyddio cyfrifiadur yn y llyfrgell, gallwch fynd i wefan Newsstand yn y DU.
I fynd i wefan Newsstand y DU gartref, ewch i wefan Newsstand a rhoi rhif eich cerdyn llyfrgell.
Mae’r Archif Digidol hwn yn caniatáu i chi weld tudalennau wedi’u sganio o The Times o 1785 tan 2019.
Nodwch mai tri defnyddiwr yn unig sy’n medru cael mynediad i’r archif yr un pryd. Os nad ydych chi’n medru mewngofnodi, mae hyn yn golygu bod y llefydd yn llawn. Rhowch gynnig arall arni maes o law.
I gael mynediad i wefan archif The Times gartref, bydd arnoch angen rhif eich cerdyn llyfrgell.
Mae’r wefan hon yn cynnig fersiynau digidol o bapurau newydd Prydeinig, cenedlaethol, lleol a rhanbarthol o’r bedwaredd ganrif ar bymtheg. Mae arni 48 o deitlau, a chyfanswm o oddeutu 2.2m o dudalennau sy’n adlewyrchu datblygiadau cymdeithasol a gwleidyddol y cyfnod. Rhoddwyd sylw arbennig i bapurau newydd oedd yn allweddol wrth arwain symudiadau gwleidyddol neu gymdeithasol arwyddocaol, megis Diwygio, Siartiaeth a Hunanlywodraeth. Mae’r papurau ceiniog a dargedwyd at y dosbarth gweithiol a chlerigol hefyd yn rhan o’r casgliad. Mae’n cynnwys tri phapur Cymraeg: Y Genedl, Y Goleuad a Baner Cymru. Mae hefyd yn cynnwys y Western Mail o 1 Mai 1869 – 31 Rhagfyr 1900. Yn y cyfnod hwn yr adeiladwyd Dociau’r Barri, a gallwch ddarllen adroddiadau gwreiddiol ymgyrch y Western Mail oedd yn gwrthwynebu’r cynllun.
Mae UKPressOnline yn caniatáu i chi ddarllen a lawrlwytho tudalennau a rhifynnau chwiliadwy fel y’u cyhoeddwyd o bapurau’r Daily Mirror (o 1903 hyd heddiw) a’r Daily Express (o 1900 ymlaen). Mae hefyd yn cynnwys y Sunday Express a’r Daily Star (2000 hyd heddiw), a blynyddoedd amrywiol o’r Church Times, The Watchman, Daily Worker a’r Morning Star. Yn ogystal, ceir yma archif o’r Ail Ryfel Byd sy’n cynnwys rhifynnau nifer o bapurau rhwng 1933 ac 1945.
Adnodd am ddim gan Lyfrgell Genedlaethol Cymru yw Papurau Newydd Cymru Ar-lein lle gallwch ddarganfod milynau o erthyglau o gasgliad cynhwysfawr y llyfrgell o bapurau newydd hanesyddol.Gallwch chi chwilio a darllen dros filiwn o dudalennau o 24 o gyhoeddiadau hyd at 1910 yma.