Cynllun Benthyca Cyfrifiaduron Llechen y Fro

Ydych chi'n adnabod rhywun heb ddyfais ddigidol ond a hoffai gymryd y camau cyntaf tuag at fynd ar-lein? Gallai benthyciad am ddim o un o'n iPads, wedi'i lwytho ymlaen llaw gyda data 4G, fod yn ffordd berffaith o'u rhoi ar ben ffordd.

 

Woman-Holding-Apple-Ipad-Air-Mewn partneriaeth â Chymdeithas Tai Newydd a Chymunedau Digidol Cymru, mae llyfrgelloedd Bro Morgannwg bellach yn cynnig cyfrifiaduron llechen i'w benthyg i aelodau'r llyfrgell. Dyma’r cynllun cyntaf o'i fath yng Nghymru, ac mae'n gobeithio cynnig cyfle i'r rhai nad oes ganddynt fynediad at offer digidol gymryd y camau cyntaf tuag at fynd ar-lein.

 

Mae ein holl gyfrifiaduron llechen wedi'u llwytho ymlaen llaw gyda data 4G. Mae hyn yn golygu nad oes angen eu cysylltiad rhyngrwyd eu hunain ar ddefnyddwyr er mwyn cael mynediad i wefannau a gwasanaethau ar-lein gyda'r dyfeisiau. Mae'r llechi hefyd yn cynnwys detholiad o appiau, wedi'u dewis yn benodol gan ein staff arbenigol ein hunain i ddechrau defnyddwyr arni cyn gynted â phosibl.

 

Sut mae’r cynllun yn gweithio?

  • Gellir benthyca llechi o bob cangen llyfrgell yn y Fro, gan gynnwys llyfrgelloedd cymunedol.

  • Yn union fel llyfrau llyfrgell, mae benthyciadau yn rhad ac am ddim.

  • Mae'r cyfnod benthyca safonol am bythefnos gyda'r opsiwn i ymestyn y benthyciad ar yr amod nad oes unrhyw ddefnyddwyr eraill yn aros.

  • Tra bod gennych y ddyfais, mae gennych ddefnydd llawn o'i holl nodweddion megis galwadau fideo, pori'r rhyngrwyd a lawrlwytho a defnyddio eich dewis eich hun o appiau.

  • Pan fyddwch yn dod â'r ddyfais yn ôl, caiff yr holl wybodaeth ei dileu o’r ddyfais cyn cael ei benthyg i'r defnyddiwr nesaf.

 

Os oes gennych chi neu rywun rydych chi'n ei adnabod ddiddordeb mewn defnyddio'r gwasanaeth hwn, cysylltwch â'ch cangen llyfrgell leol i drefnu benthyciad.