Mae ein gwefan yn defnyddio cwcis
Rydym yn defnyddio cwcis ar gyfer gweithrediad gwefannau ac i helpu i ddadansoddi ein traffig er mwyn i ni allu gwella ein gwasanaethau. Mae cwcis angenrheidiol yn helpu i wneud y wefan yn ddefnyddiadwy drwy alluogi swyddogaethau sylfaenol fel llywio tudalen. Ni all y wefan weithredu'n iawn heb y cwcis hyn. Dewiswch eich dewisiadau isod. Gwybodaeth am Gwcis
Galluogi pob cwci Caniatáu dewis
Mwynhau
Byw
Cyngor
Gweithio
Gwasanaeth eGronau newydd yw RBDigital lle gall aelodau’r llyfrgell ddarllen dros 250 o’r cylchgronau mwyaf poblogaidd yn rhad ac am ddim. Gallwch chi danysgrifio i deitlau megis BBC Good Food, Radio Times, Elle, Harpers Bazaar, Empire, Official PlayStation Magazine, National Geographic, New Scientist, Gardeners World ac eraill. Darllenwch eich cylchgronau ymhle bynnag a phryd bynnag rydych chi’n dymuno’i wneud drwy lawrlwytho’r ap perthnasol ar gyfer dyfeisiau Apple ac Android. Gallwch dderbyn nodyn atgoffa pan fydd y rhifyn newydd ar gael drwy e-bost a darllen ôl-rifynnau gan ddefnyddio RBDigital.
Mae RBDigital yn cynnig amrywiaeth anhygoel o danysgrifiadau i gylchgronau yn rhad ac am ddim i holl aelodau’r llyfrgell.
Ewch i’r hafan i chwilio’r catalog a lawrlwytho’r ap a darllen cylchgronau o’ch dewis. Drwy ddefnyddio’r ap, gallwch chi ddarllen eich cylchgronau pan na fyddwch chi ar-lein, neu’n teithio – dramor neu’n nes at gartref.
Gallwch greu cyfrif heddiw ar wefan RBDigital a dechrau arbed arian gyda RBDigital a llyfrgelloedd y Fro.
Os oes angen help arnoch chi i ddechrau arni, dewch â’ch dyfais i’ch llyfrgell leol am sesiwn gymorth gychwynnol yn rhad ac am ddim.
Lawrlwytho
Ewch i wefan RBDigital i ddewis eich cylchgronau. I lawrlwytho cylchgronau i’w darllen pan na fyddwch ar-lein, bydd arnoch chi angen yr ap.
Apple: iTunes
Android: Play Store
Cyfrifiadur: RBDigital