Cost of Living Support Icon

Ffordd Fawreddog Morgannwg: Digwyddiadau i ddod

Ar y dudalen hon fe welwch bostiadau blog, cyfleoedd gwirfoddoli a digwyddiadau yn ymwneud â phrosiect llwybr ceffylau Ffordd Morgannwg Fawr.

 

Cofiwch edrych yn ôl yn rheolaidd i ddod o hyd i ddiweddariadau ar y prosiect a ffyrdd newydd o gymryd rhan.

Ffromlys Chwarennog (Jac y Neidiwr)

Himalayan Balsam

Wedi’i gyflwyno gyntaf i'r DU ym 1839 gan helwyr planhigion Fictoraidd, mae Ffromlys Chwarennog (Impatiens glandulifera) bellach wedi dod yn endemig yn y DU. Mae'r rhywogaeth yn goddef amrywiaeth eang o amgylcheddau, gan alluogi cynefino a threchu rhywogaethau brodorol eraill.

 

Mae’r Ffromlys Chwarennog yn blanhigyn blodeuol blynyddol. Mae'n llwyddo yn ei le trwy dyfu'n dalach ac yn gynt na rhywogaethau brodorol, gan ffurfio clystyrau trwchus sy’n cysgodi'r pridd oddi tanynt yn llwyr. Gan na all unrhyw olau dreiddio i 'ganopi' trwchus y Ffromlys Chwarennog, nid yw rhywogaethau brodorol yn gallu ffotosyntheseiddio a ffynnu, gan leihau'n sylweddol y fioamrywiaeth yn yr ecosystem lle mae’n tyfu.

 

Mae'n achosi lleihad mewn rhywogaethau brodorol trwy fecanweithiau eraill hefyd:

  • Mae un planhigyn yn cynhyrchu hyd at 2000 o hadau. Gall y codennau hadau ledaenu’r hadau hyn trwy ‘ffrwydro’ pan gânt eu hysgogi (mae hyn yn digwydd trwy anifeiliaid yn ysgubo heibio i system ysgogi’r blodau neu hyd yn oed trwy gysylltiad â phlanhigion cyfagos yn cael eu chwythu yn erbyn ei gilydd trwy brosesau eolaidd (gwynt). Mae hyn yn galluogi dosbarthu hyd at 7 metr o bob coden hadau

  • Mae'r blodau llawn neithdar niferus yn cael eu cynnal tan yn hwyr yn y tymor. Mae hyn yn denu pryfed peillio fel gwenyn. Er gallai hyn ymddangos yn ddeniadol o ystyried yr argyfwng presennol ynglŷn â phrinder gwenyn, mae’r broses yn effeithio ymhellach ar fioamrywiaeth trwy gyfyngu ar beillio ein rhywogaethau brodorol

  • Gan ei fod yn rhywogaeth flynyddol, ni ddatblygir unrhyw system wreiddiau sylweddol. Mae hyn yn cyflymu erydiad pridd sy'n cael effaith arbennig o andwyol ar lannau afonydd. Mae’n effeithio ar yr ecosystemau yn yr ardaloedd hyn trwy erydu pridd sy’n mygu creaduriaid di-asgwrn-cefn ac yn difrodi magwrfeydd pysgod

 

Beth y gellir ei wneud? 

Himalayan Balsam 2

Fel rhan o'n cwmpas, un agwedd ar greu Ffordd Fawr Morgannwg yw gwella'r seilwaith cysylltedd gwyrdd ar hyd y llwybr. Nid yn unig y mae hyn yn golygu creu 'Priffyrdd neu Goridorau Gwyrdd' ond hefyd cynnal a gwella'r ecoleg wrth ymyl y llwybr arfaethedig.

 

Fel rhywogaeth â gwreiddiau bas nad yw'n wenwynig, un gwendid yng nghylch twf trawiadol y Ffromlys Chwarennog yw ei bod yn eithriadol o hawdd ei dynnu o'r ddaear. Os caiff ei wneud yn gywir, gall hyn gael effaith fawr mewn cylchoedd twf olynol trwy ddinistrio'r planhigyn cyn i'r hadau aeddfedu. Fel y soniwyd uchod, y fantais sydd gan y rhywogaeth hon yw y gall daflu ei holl egni i dyfu'n gyflym ac yn egnïol, gan gynhyrchu llawer iawn o hadau. Gan nad oes bwlb, rhisom na chorm ganddo, ni fydd twf y flwyddyn ganlynol yn bosibl heb i'w ragflaenydd gynhyrchu hadau hyfyw. 

 

Dyma lle rydych chi'n gallu helpu

Rydym ni fel tîm yn trefnu diwrnodau gwirfoddoli mewn safleoedd ym mhob un o'r pum awdurdod lleol sy'n rhan o'r prosiect. Rhan o hwn fydd rheoli y Ffromlys Chwarennog mewn ardaloedd y mae ein tîm wedi'u nodi. Mae gweithgaredd a elwir yn 'Balsam Bashing' yn cynnwys gwirfoddolwyr yn tynnu ac yn mynd ati i niweidio pob coesyn er mwyn atal y planhigyn rhag cynhyrchu'r hadau sydd eu hangen i barhau â'i gylch bywyd.

 

Dyddiadau ac amseroedd

  • Garth Hill, Cardiff & Coed y Gedrys RCT – 10/06/2022 

  • Treharris, Merthyr Tydfil – 21/06/2022

  • Trehafod, RCT – 22/06/2022

  • Hensol, VoG – 23/06/2022

  • Craig yr Aber Forest, Bridgend – 24/06/2022

 

Os hoffech chi wirfoddoli, cofrestrwch ar gyfer un o'r digwyddiadau (i’w cyhoeddi). 

 

gofrestru eich diddordeb a byddwn yn trefnu i chi ymuno â'n tîm yn y lleoliad o’ch dewis. Gan fod hwn yn weithgaredd diogel a syml, rydym yn annog pob oedran a gallu i gymryd rhan. Bydd eich help yma, yn ogystal â chael ei werthfawrogi, yn gyfraniad pwysig at y gwaith o ddiogelu a gwella ein hecosystemau a’n bioamrywiaeth frodorol.

 

Diolch yn fawr gan holl dîm y prosiect yn Ffordd Fawr Morgannwg.