Cynlluniau chwarae
Cynhelir y rhain mewn adeiladau cymunedol megis ysgolion, eglwysi a chanolfannau cymunedol. Maent wedi’u hanelu at blant 5-11 oed, ac maent yn para awr a 55 munud y sesiwn. Gall y plant ddewis pa weithgareddau yr hoffent gymryd rhan ynddynt, o blith celf a chrefft, gemau bwrdd, chwarae mewn dŵr a chwaraeon mwy ffurfiol.
Gallwn gynnig gwasanaeth cynhwysfawr i sicrhau bod plant ag anabledd yn medru cael mynediad i’r cynlluniau. Gellir cynnig adnoddau megis cymorth unigol, nyrs gofrestredig a chynorthwyydd gofal personol.