Asesu Digonolrwydd Cyfleoedd Chwarae
Llywodraeth Cymru yw’r gyntaf yn y byd i ddeddfwriaethu ar gyfer chwarae i blant.
Mae’n cydnabod bod gan blant hawl sylfaenol i fedru chwarae, ac oherwydd hynny, mae’r Llywodraeth wedi ymrwymo i wella cyfleoedd i holl blant a phobl ifanc Cymru allu chwarae’n ddiogel.
Ym mis Tachwedd 2012, i ddangos ei hymrwymiad i symud yr agenda hon yn ei blaen, gwnaeth y Llywodraeth hi’n ddyletswydd ar bob awdurdod lleol i asesu digonolrwydd cyfleoedd chwarae yn eu hardal, a llunio cynllun gweithredu i wella’r cyfleoedd chwarae oedd ar gael i gyd-fynd â’r asesiad. Mae’r adroddiadau isod yn Saesneg yn unig.
Yn 2019 bu’n rhaid i bob Awdurdod Lleol asesu’r cyfleoedd chwarae oedd ar gael ac ysgrifennu cynllun gweithredu ategol. Isod mae trosolwg o broses a chanfyddiadau’r Asesiad Digonolrwydd Chwarae. Fel rhan o’r broses cafodd arolwg ei gynnal. Mae trosolwg o ganlyniadau’r arolwg isod.