Chwarae yn ystod Pandemig
"Yn ystod cyfnodau o argyfwng, mae gan chwarae rôl therapiwtig sylweddol sy'n helpu plant i adfer ymdeimlad o normalrwydd a llawenydd"
– Y Gymdeithas Chwarae Ryngwladol
Aros yn Ddiogel ac Aros yn Bositif
Hoffai Tîm Chwarae’r Fro eich llongyfarch ar ba mor dda ydych chi’n ei wneud. Rydyn ni’n gwybod ei bod yn adeg heriol ac yn gobeithio eich bod i gyd yn aros yn ddiogel ac yn bositif.
I ddiolch i chi am gefnogi ein tîm, rydyn ni wedi paratoi tystysgrif o werthfawrogiad y gallwch ei hargraffu. Gallwch lawrlwytho’ch copi yma, ei argraffu a’i addurno.
Chwarae yn ystod Pandemig
Ar ôl treulio wythnosau mewn cyfnod o gloi, gyda pharciau ac ysgolion ar gau, a thripiau allan o'r tŷ wedi eu cyfyngu i awr y dydd i'r mwyafrif, rydyn ni am wybod sut mae'r newidiadau hyn wedi effeithio ar eich profiadau chwarae.
Byddem wrth ein bodd yn clywed sut mae chwarae wedi bod yn rhan o fywyd eich teulu yn ystod y pandemig hwn
Arolwg Chwarae yn Ystod Pandemig
Capsiwl Amser COVID-19
Defnyddiwch ein llyfryn Capsiwl Amser fel ysbrydoliaeth i greu eich atgofion eich hun o'r amser hwn:
Fy Capsiwl Amser 2020 COVID-19
Chwarae! Dywedwch eich Dweud!
Nawr, yn fwy nag erioed, bydden ni wrth ein boddau yn cael eich barn ar ein gwasanaeth.
Os yw eich plentyn wedi defnyddio’r ddarpariaeth chwarae yn ystod 2019-2020, a fyddech cystal â rhoi o’ch amser i gwblhau ein harolygon byr:
Iach, Actif ac yn y Cartref
Mae ein syniadau Iach, Actif a Gartref yn cynnig syniadau cost isel, neu am ddim, i’ch cadw’n iach, yn actif ac yn cael hwyl wrth aros gartref.
Dilynwch ni am y newyddion diweddaraf:
Meddwl am Chwarae
Rydyn ni’n gwybod bod chwarae wedi bod yn rhan allweddol o gefnogi teuluoedd yn ystod yr adeg hon. Rydyn ni hefyd yn gwybod y bydd teuluoedd wedi gwneud llawer o chwarae gyda’i gilydd.
Hoffen ni achub ar y cyfle i’ch gwahodd i fod yn rhan o Fforwm Chwarae’r Fro.
Bydd Fforwm Chwarae’r Fro yn llwyfan i’r rheiny sy’n angerddol dros chwarae er mwyn:
Os ydych chi’n unigolyn sy’n meddwl am chwarae ac os hoffech ymuno â’r drafodaeth am chwarae yn y Fro, e-bostiwch
Dolenni Defnyddiol: