Adolygiad ar
Raglen Adfywio Windsor Road
Cefndir:
Ar 18 Medi 2017, cymeradwyodd y Cabinet i gynnwys Cynllun Adfywio Tai Ffordd Windsor, Penarth, ym Mholisi Adnewyddu Tai’r Sector Preifat 2014. Roedd y rhesymeg dros yr ymyriad yn seiliedig ar symudiad tuag at ddull Adfywio Tai o ymdrin â Thai’r Sector Preifat. Mewn cynlluniau blaenorol, cefnogwyd buddsoddiad gan grantiau Llywodraeth Cymru a ganiataodd i ardaloedd mawr o dai gael eu cynnwys mewn rhaglenni buddsoddi. Fodd bynnag, pan ddaeth grant Llywodraeth Cymru ar gyfer Ardaloedd Adnewyddu i ben ym mis Mawrth 2017, roedd angen targedu ardaloedd daearyddol llai ar gyfer buddsoddi.
Gan ddefnyddio derbyniadau Adran 106 o ddatblygiad ‘Penarth Heights’, cynigiwyd cyfres o welliannau ar gyfer yr ardal o amgylch Windsor Road, gan gynnwys gwelliannau i fannau gwyrdd a gwelliannau'n ymwneud â rheoli cerddwyr/traffig. Ar y cyd â'r uchod, byddai cynllun Adfywio Tai Windsor Road yn gwneud y gorau o effaith ofodol y gwelliannau a gynigir. Yn ogystal, yn 2013 cynhyrchodd Soltys Brewester Consulting strategaeth ar y cyd â Chymdeithas Dwristiaeth ac Ymwelwyr Penarth o'r enw Porth i Benarth - Windsor Road. Nodwyd mai ar ran isaf Windsor Road yr oedd angen ei wella fwyaf er mwyn sicrhau bod y Porth i Benarth yn rhoi'r argraff orau bosibl a fyddai'n cyfrannu at Benarth o ran twristiaeth, canol y dref a datblygu busnes.
Yn ystod 2017, dyrannodd y Cyngor yn y rhaglen gyfalaf symiau o £150k, £300k a £300k yn 2017/18, 2018/19 a 2019/20 yn y drefn honno, i Adfywio Tai ac yn eu cyfarfod ar 18 Medi 2017, cytunodd y Cabinet, yn ystod blynyddoedd ariannol 2017/18 a 2018/19, y dylid defnyddio cyllid i hwyluso ardal adfywio tai yn Windsor Road, Penarth.
Mabwysiadwyd dull tri cham i'r ardal fel a ganlyn:
CAM 1 – Ailwampio gweddau blaen eiddo preswyl
CAM 2 – Cynllun wal derfyn
CAM 3 – Ail-osod y droedffordd
ALLBYNNAU'R RHAGLEN
Cam 1: Cynllun Ailwampio Windsor Road
Roedd Cynllun Ailwampio Windsor Road yn cwmpasu eiddo preswyl Rhifau 100-160, 164-172 a Rhif 157 Windsor Road. Cafodd Grantiau Ailwampio eu cynnig heb gost i berchen-feddianwyr a landlordiaid, gan gynnwys:
- Adnewyddu ffasgau pren a byrddau soffit PVC
- Gosod drysau a ffenestri pren newydd
- Adnewyddu gorchuddion uwch y drws blaen
- Ail-addurno allanol
- Adnewyddu gwteri a phibelli dŵr glaw
- Glanhau ac ail-bwyntio gwaith carreg / brics
- Gosod system dros-rendro lle y bo’n berthnasol
Cyfanswm nifer yr eiddo cymwys
|
38
|
Nifer a fu’n rhan o’r cynllun
|
37
|
% a dderbyniodd y cynnig
|
97%
|
Dyddiad cychwyn
|
27 Tachwedd 2017
|
Dyddiad cwblhau
|
10 Hydref 2018
|
Cost gan gynnwys ffioedd
|
£142,525.08
|
Contractwr
|
Pinit Building & Civil Engineering Ltd.
|
Cam 2: Cynllun wal derfyn
Er bod y Cynllun Ailwampio wedi bodloni'r holl ddisgwyliadau gan adfer cymeriad gwreiddiol yr eiddo a chysoni golwg unffurf y stryd, amlygwyd y muriau ffiniol oedd o ansawdd gwael a oedd ar flaen y teras. Roedd llawer o'r waliau wedi'u hailadeiladu dros y blynyddoedd mewn amrywiaeth o wahanol ddefnyddiau ac roedd rhai eiddo eisoes wedi colli eu wal flaen ac eraill yn dadfeilio. Fyddai effaith y Cynllun Ailwampio fyth wedi ei wireddu’n llawn heb roi sylw i wella’r waliau hyn.

Cyn

Wedyn
Felly roedd Cam 2 y rhaglen adfywio yn cynnwys cynllun wal derfyn. Yn rhan o’r cynllun hwn, cafodd y waliau terfyn blaen eu dymchwel a rhoddwyd wal frics isel gyda rheiliau ar ei phen a giât sy’n cyd-fynd â hi yn eu lle, gyda’r gwahanfur rhwng eiddo’n cael ei ailadeiladu gyda wal frics solid uchder llawn.
Cyfanswm nifer yr eiddo cymwys
|
32
|
Nifer a fu’n rhan o’r cynllun
|
32
|
% a dderbyniodd y cynnig
|
100%
|
Dyddiad cychwyn
|
8 Hydref 2018
|
Dyddiad cwblhau
|
25 Chwefror 2019
|
Cost gan gynnwys ffioedd
|
£113,039.25
|
Contractwr
|
Intervention Services Ltd
|
Cam 3: Ail-osod y droedffordd
Gan ddefnyddio arian Adran 106, yn ystod cam olaf y rhaglen, codwyd y droedffordd slabiau a gosod tarmac yn ei le
Dyddiad cychwyn
|
25 Chwefror 2019
|
Dyddiad cwblhau
|
22 Mawrth 2019
|
Cost gan gynnwys ffioedd
|
£50,000.00
|
Contractwr
|
Horizon Civil Engineering Ltd.
|

Arwyneb anwastad gyda chraciau i’r droedffordd slabiau wreiddiol a pheryglon baglu

Troedffordd tarmac du newydd
Adborth o Arolwg Boddhad Cwsmeriaid
Ym mis Gorffennaf 2019 anfonwyd arolwg boddhad cwsmeriaid i bob eiddo a fu’n rhan o’r rhaglen adfywio. O'r 38 eiddo cymwys, derbyniwyd 16 ffurflen, sef 42% yn eu dychwelyd. Cofnodwyd y canlyniadau canlynol:
Cwestiwn:
|
Cytuno’n gryf
|
Cytuno
|
Anghytuno
|
Anghytuno’n gryf
|
Ddim yn gwybod
|
Mae'r rhaglen wedi gwneud fy stryd yn lle brafiach i fyw
|
9
|
5
|
2
|
0
|
0
|
Mae'r rhaglen wedi gwella'r ffordd i mewn i ganol tref Penarth
|
13
|
1
|
1
|
0
|
1
|
Mae'r rhaglen wedi adfer ymdeimlad o falchder yn fy ardal leol
|
8
|
4
|
3
|
0
|
1
|
Rwy’n hapusach yn fy nghartref yn dilyn y rhaglen adfywio
|
6
|
5
|
2
|
1
|
2
|
Yn ogystal â'r uchod:
- Cadarnhaodd 50% o'r perchenogion fod y rhaglen adfywio wedi'u hannog i wneud gwelliannau pellach i'w cartrefi
- Roedd 75% o'r perchenogion o'r farn y byddai'r gwelliannau a wnaed yn para'n hir
Sylwadau perchnogion.................
- “Wrth fy modd â phopeth a wnaed yma ond y wal flaen a’r rheiliau oedd y gorau oll.”
- “Cafodd yr holl broses o’r cychwyn ei weithredu i’r safon uchaf gan arwain at greu stryd rydyn ni’n falch o fyw ynddi.”
- "Mae'n gwneud y ffordd i mewn i Benarth yn llawer mwy dymunol"
3 Medi 2019