Caiff canlyniadau Cefnogi Pobl eu casglu ar gyfer defnyddwyr gwasanaeth unigol, cyn eu crynhoi i greu ‘canlyniadau project’:
Mae’r project yn gwneud y canlynol:Hyrwyddo Diogelwch Personol a Chymunedol
Oherwydd bod pobl yn:
- Teimlo’n ddiogel
- Cyfrannu at eu diogelwch a llesiant eu hunain a phobl eraill
Mae’r project yn:Hyrwyddo Annibyniaeth a Rheolaeth
Oherwydd bod pobl yn:
- Rheoli eu llety
- Rheoli eu perthnasau
- Teimlo’n rhan o’r gymuned
Mae’r project yn:Hyrwyddo Cynnydd Economaidd a Rheolaeth Ariannol
Oherwydd bod pobl yn:
- Rheoli eu harian
- Ymgysylltu ag addysg/dysgu
- Ymgysylltu â chyflogaeth/gwaith gwirfoddol
Mae’r project yn:Hyrwyddo Iechyd a Llesiant
Oherwydd bod pobl yn:
- Gorfforol iach
- Meddyliol iach
- Byw bywyd iach a phrysur
Mae'r fframwaith canlyniadau cenedlaethol wrthi’n cael ei dreialu mewn nifer o Awdurdodau Lleol yng Nghymru gan gynnwys tîm Cefnogi Pobl Bro Morgannwg. Caiff y treial ei adolygu’n rheolaidd â’r nod o'i gyflwyno yn yr holl wasanaethau a ariennir gan CP ledled Cymru.