Cost of Living Support Icon
warm Spaces Icon
Safer Vale logo

Partneriaeth Bro Ddiogelach

Mae Partneriaeth Bro Ddiogelach yn gweithio ynghyd i greu amgylchedd diogelach i drigolion, gweithwyr ac ymwelwyr â Bro Morgannwg; heb drosedd, heb anhrefn nac ofn troseddu.

 

Mae Partneriaeth Bro Ddiogelach yn derbyn cyllid gan Gomisiynydd yr Heddlu a Throseddu a Llywodraeth Cymru i ddyfeisio ymatebion diogelwch cymunedol sy'n briodol yn lleol.

 

Mae Partneriaeth Bro Ddiogelach rhwng: 

  • Cyngor Bro Morgannwg
  • Heddlu De Cymru
  • Y Gwasanaeth Prawf Cenedlaethol
  • Bwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a'r Fro
  • Gwasanaeth Tân ac Achub De Cymru
  • Cynrychiolaeth o'r Trydydd Sector

Mae Partneriaeth Bro Ddiogelach yn cynnal asesiadau strategol blynyddol i sicrhau bod y tîm yn gweithio ar y blaenoriaethau ar gyfer mynd i'r afael â diogelwch ym Mro Morgannwg.

 

Mae strategaeth 2020-2023 yn canolbwyntio ar ymddygiad gwrthgymdeithasol, cam-drin domestig, cydlyniant cymunedol ac ymgysylltu â'r gymuned, fodd bynnag, mae'r strategaeth yn ddogfen fyw felly bydd yn ymateb yn weithredol i unrhyw faterion cymunedol eraill y mae angen i'r bartneriaeth roi sylw iddynt.

 

Strategaeth Diogelwch Cymunedol Bro Morgannwg 2020-2023

 

Cyswllt  

I gael rhagor o wybodaeth ac i gael y wybodaeth ddiweddaraf gan Partneriaeth Bro Ddiogelach, dilynwch: