Opsiynau a Ystyriwyd
Mewn ymgynghoriad ag ystod eang o randdeiliaid gan gynnwys busnesau lleol, darparwyr gwasanaethau a sefydliadau cymunedol, mae nifer o opsiynau ar gyfer sefydlu cyfnewidfa drafnidiaeth yn Nociau'r Barri wedi cael eu harchwilio.
Y nod yw gwella cysylltiadau trafnidiaeth a chynorthwyo newid moddol.
Gyda'i gilydd, bydd y cysylltiadau gwell yn cynnig cefnogaeth sylweddol i ddatblygiad economaidd y Barri a Dinas-ranbarth Caerdydd yn ehangach, yn cynorthwyo'r rhai sy'n ceisio cael mynediad at gyflogaeth, hyfforddiant a gwasanaethau eraill yn y rhanbarth, yn annog mwy o ddefnydd o ddulliau trafnidiaeth gynaliadwy ac yn helpu i wella ansawdd aer a lleihau tagfeydd a sŵn.
Mae’r Cyngor wedi bod yn defnyddio proses gwerthuso opsiynau WelTAG ac ar ddiwedd Cam 2, nodwyd mai’r opsiwn a ffefrir ydy Opsiwn 2.
-
Opsiwn 2 – Cyfnewidfa Bws/Tacsis i'w lleoli i'r de o'r Orsaf ar ran o Faes Parcio Swyddfeydd y Dociau a Maes Parcio Parcio a Theithio ychwanegol, a gyrchir o Dock View Road, i’w lleoli i’r gogledd o lwyfan yr Orsaf, gyda Defnyddiau Preswyl ac o bosibl Fasnachol i’w lleoli i’r gogledd-orllewin o’r orsaf.
Bydd y datblygiad a ragwelir o dan Opsiwn 2 yn gwneud cyfraniad sylweddol tuag at sefydlu'r canolbwynt symudedd cynhwysfawr yn Nociau'r Barri, sef gweledigaeth eithaf y Cyngor.
Byddai tai ar y safle yn cynnwys darpariaeth tai cymdeithasol ac yn golygu bod gan unrhyw un sy'n dechrau preswylio fynediad uniongyrchol i bob math o drafnidiaeth gynaliadwy ar gyfer y siwrneiau y mae angen iddynt ymgymryd â hwy, gan negyddu'r angen am berchnogaeth ceir.
Bydd datblygu masnachol yn gwneud amgylchedd yr orsaf yn fwy deniadol yn gyffredinol, drwy gynyddu'r cyfleusterau sydd ar gael, gan gynnwys y potensial i ddarparu cyfleusterau cymunedol pellach yn ogystal â manwerthu.
Mae lleoli'r gyfnewidfa bws/tacsis i'r de o'r orsaf yn ei sefydlu fel cyfleuster penodol yn ei le ei hun, gan bwysleisio ei rôl fel y porth rhwng yr orsaf a'r dref.
Mae’r Opsiwn 2 a ffefrir hefyd yn cynnig cymorth gwell ar gyfer cerdded a beicio (teithio llesol) drwy wella’r llwybrau at yr orsaf o’r gogledd.
Drwy roi'r ffocws ar ddefnyddio dulliau cynaliadwy, mae opsiynau 1 a 2 hefyd yn cynnig mwy o gapasiti i sicrhau cynhwysiant a chydraddoldeb, gyda'r rhai sydd wedi'u heithrio yn fwy tebygol o allu cael gafael ar y dulliau hyn nag y maent i fod yn berchen ar gar neu gael mynediad iddo. Bydd mwy o gynhwysiant, yn ei dro, yn arwain at fwy o gyfleoedd i grwpiau sy'n agored i niwed gael mynediad at swyddi, hyfforddiant a gwasanaethau, drwy'r rhwydwaith rheilffyrdd. Bydd hyn yn arbennig o berthnasol i adferiad ar ôl Covid.