Mae Cynllun Datblygu Lleol (CDLl) Bro Morgannwg yn darparu’r fframwaith polisi cynllunio lleol ar gyfer Bro Morgannwg a chafodd ei fabwysiadu gan y Cyngor ar 28 Mehefin 2017.
Mae’r Cynllun yn nodi gweledigaeth, amcanion, strategaeth a pholisïau rheoli datblygiadau ym Mro Morgannwg, ac mae’n cynnwys nifer o bolisïau cynllunio lleol ac yn trafod defnyddio tir at ddibenion tai, cyflogaeth, manwerthu, hamdden, trafnidiaeth, twristiaeth, mwynau, gwastraff a defnydd cymunedol. Mae hefyd yn ceisio adnabod y seilwaith y bydd ei hangen i ateb y twf a ragwelir ym Mro Morgannwg hyd at 2026 ac mae’n cynnwys fframwaith fonitro i asesu pa mor effeithiol yw’r Cynllun.