Cost of Living Support Icon

Tîm Cyrhaeddiad, Llesiant ac Ymgysylltu 

Mae'r Tîm Cyrhaeddiad, Llesiant ac Ymgysylltu (CLlY) yn rhan o Dîm Cynhwysiant cyfarwyddiaeth Dysgu a Sgiliau Bro Morgannwg.

 

Mae holl aelodau'r tîm yn weithwyr addysg proffesiynol a gyflogir yn uniongyrchol gan yr Awdurdod Lleol i gefnogi dysgwyr mewn lleoliadau o fewn ysgolion a'r tu allan iddynt.

 

Sut mae dysgwyr yn cael cymorth gan y Tîm CLlY, ac a allaf hunangyfeirio at y Tîm CLlY? 

Daw'r rhan fwyaf o ddysgwyr i’r Tîm CLlY ar ôl i ysgol wneud atgyfeiriad i Banel Iechyd Cymdeithasol, Emosiynol a Meddyliol y Cyngor (PICEM).

 

Cyn i ysgol wneud cais i'r PICEM am gymorth a chyngor, mae angen gofyn i rieni/gofalwyr y plentyn am eu caniatâd i wneud hynny.  CLlY yw un o'r ffyrdd posibl y gall yr Awdurdod Lleol gynnig cymorth ychwanegol.

 

Weithiau, bydd dysgwyr CLlY eisoes yn hysbys i'r Tîm Cynhwysiant a gallant fod yn derbyn cymorth drwy 'Ddysgu y Tu Allan i Oriau Ysgol' a gall y Tîm CLlY fod yn rhan o'u cynllun cymorth bugeiliol pwrpasol i helpu i'w cefnogi i ailgydio yng nghynnig dysgu llawnach ac ehangach mewn ffordd raddol fesul cam.  

 

Efallai y bydd dysgwyr eraill eisoes yn hysbys i’r Tîm CLlY am eu bod yn cael 'Addysg Ddewisol yn y Cartref' a bod ganddynt anghenion dysgu neu gymorth y gall y Cyngor eu hwyluso mewn rhyw ffordd megis drwy Grant Llywodraeth Cymru.

Pa mor hir y bydd y Tîm CLlY yn gweithio gyda dysgwyr?

Mae’r Tîm CLlY yn gweithio ar sail tymor byr a bydd yn gwahodd y dysgwr a'i rieni/gofalwyr i gyfarfod Cynllun Cymorth Bugeiliol (CCB) cychwynnol i gynllunio sut olwg fydd ar y cynllun dysgu.  Bydd adolygiadau rheolaidd o'r cynllun hwn.

 

Mae gan rieni/gofalwyr a dysgwyr i gyd ran i'w chwarae yn y cyfarfodydd a'r cynlluniau hyn.  Bydd gan rai dysgwyr gynnig asesu tymor byr ac efallai y bydd gan rai dysgwyr gymorth dysgu o bell/ar-lein, yn yr hyb lles neu yn yr ysgol.

 

Y nod bob amser yw sicrhau bod holl ddysgwyr y Fro yn cael addysg addas amser llawn sy'n diwallu eu hanghenion cyn gynted ag y gallant ond bydd y ddarpariaeth yn wahanol i bob dysgwr gan y bydd y cynllun yn seiliedig ar eu hanghenion.  Bydd y PICEM hefyd yn cael ei ddiweddaru o ran y cymorth a'r cynnydd parhaus a wnaed a gall benderfynu newid neu roi terfyn ar gyfranogiad y Tîm CLlY.

Sut bydd y Tîm CLlY yn asesu'r cymorth ac yn gwybod a ydym yn gwneud gwahaniaeth? 

Bydd gan bob dysgwr CLlY feysydd angen a chymorth personol a phwrpasol. Bydd y rhain yn cael eu nodi yn y CCB a byddant yn seiliedig i ddechrau ar yr hyn y mae ysgolion wedi dweud wrthym o ran pa gymorth y mae ei angen arnoch, neu beth rydym yn deall yw'r meysydd cymorth.

 

Bydd dysgwyr yn cael eu hannog i osod eu nodau eu hunain ar gyfer gwaith CLlY a byddant yn defnyddio ffyrdd o fesur eu cynnydd mewn unrhyw faes fel STAR neu fesurau asesu pellter a deithiwyd.  Ar gyfer llesiant, rydym hefyd yn defnyddio mesurau TIS motional, SELFIE a PERMA gan ddibynnu ar yr angen a'r wybodaeth a roddir i ni yn y lle cyntaf. 

 

Rydym yn defnyddio'r marcwyr cychwynnol hyn i'n helpu i wybod a yw pethau'n gwella a’n bod yn cynnig y cymorth cywir. Ble bydd y sesiynau dysgu a chymorth yn cael eu cynnal? Gallant fod ar-lein neu wyneb yn wyneb naill ai yn yr ysgol, yn y cartref neu yn yr Hyb Llesiant sydd wedi'i leoli yn adeilad y Dysgwyr Ysbrydoledig yn 161 Heol Holltwn, Y Barri CF63 4HP.