21st Century Schools Logo

Ehangu Darpariaeth Gynradd yn y Bont-faen (Cam 1)

Ymgynghoriad ar y cynnig i ateb y galw uwch am addysg gynradd cyfrwng Saesneg yn y Bont-faen o fis Medi 2022.

Cyflwyniad i'r cynnig

Ar 4 Tachwedd 2019, fe gymeradwyodd Cabinet y Cyngor ddull graddol o ehangu darpariaeth gynradd yn y Bont-faen gyda darpariaeth cyfrwng Saesneg yn cael ei hehangu fel rhan o gam un a darpariaeth gynradd cyfrwng Cymraeg yn cael ei hehangu fel rhan o gam dau. Mae hyn yn unol â’r amcanestyniadau disgyblion, sy’n dynodi na fyddai darpariaeth cyfrwng Saesneg yn gallu ateb y galw o fis Medi 2020. Mae’r amcanestyniadau’n dynodi y byddai’r ddarpariaeth cyfrwng Cymraeg fel y mae ar hyn o bryd yn cyrraedd ei chapasiti o fewn y pum mlynedd nesaf.

Fe roddodd y Cyngor ystyriaeth i ystod o safleoedd i gyflawni’r ddau gam; gyda Safle Ysgol Gyfun y Bont-faen yn cael ei adnabod fel y safle a ffefrir ar gyfer ehangu’r ddarpariaeth cyfrwng Saesneg a safle Fferm y Darren ar gyfer ehangu’r ddarpariaeth cyfrwng Cymraeg.

Fe ymgynghorodd y Cyngor yn flaenorol ar gynnig i gynyddu capasiti cyfrwng Saesneg trwy sefydlu ysgol pob oed 3-19 ar safle Ysgol Gyfun y Bont-faen i wneud lle i 420 o leoedd cynradd cyfrwng Saesneg gyda 96 o leoedd meithrin rhan-amser ychwanegol. Byddai hyn wedi arwain at ddirwyn Ysgol Gynradd y Bont-faen ar ei ffurf bresennol i ben, gyda’r holl staff a disgyblion yn trosglwyddo i’r ysgol pob oed.

Mae’r Cyngor yn nodi’r pryderon a godwyd gan staff, llywodraethwyr, rhieni ac aelodau’r gymuned ynghylch y cynnig blaenorol a chan hynny mae wedi mynd ati’n llawn i archwilio’r dulliau eraill sydd ar gael i gyflawni’r capasiti gofynnol.

Mae’r Cyngor wedi adnabod dull arall a fyddai’n ateb y galw am addysg gynradd cyfrwng Saesneg, gan hefyd fynd i’r afael â nifer o bryderon a gyflwynwyd fel rhan o’r ymarfer ymgynghori.

Ar 9 Mawrth 2020, fe wnaeth Cabinet y Cyngor awdurdodi’r Cyfarwyddwr Dysgu a Sgiliau i gynnal ymgynghoriad ar gynnig diwygiedig i gynyddu nifer y lleoedd ysgol cynradd yn y Bont-faen.

 

Mae’r ddogfen hon yn egluro cynnig y Cyngor i ateb y galw uwch am addysg gynradd cyfrwng Saesneg yn y Bont-faen o fis Medi 2022 trwy:

  • Newid ystod oedran Ysgol Gyfun y Bont-faen o 11 - 19 i 3 - 19;
  • Cynyddu capasiti Ysgol Gyfun y Bont-faen o 1,586 o leoedd i 1,796 o leoedd i wneud lle i 210 o leoedd cynradd cyfrwng Saesneg gyda 48 o leoedd meithrin rhan-amser ychwanegol; a
  • Chodi adeilad ysgol newydd ar safle Ysgol Gyfun y Bont-faen i wneud lle i’r cyfnodau cynradd a meithrin. 

Na fyddai Ysgol Gynradd y Bont-faen wedi’i chynnwys yn y cynnig hwn ac y byddai’n aros ar ei safle presennol gyda’i chapasiti presennol.

Mae’r ymgynghoriad hwn yn rhoi’r cyfle i chi ofyn cwestiynau a gwneud sylwadau a fydd yn cael eu hystyried pan fydd Cabinet y Cyngor yn penderfynu sut i fwrw ymlaen.

I gael rhagor o wybodaeth am gamau’r broses ymgynghori statudol, gweler ein canllawiau defnyddiol.

Dod o hyd i fwy

 

Trefnwyd sesiynau galw heibio i'r cyhoedd i gefnogi'r ymgynghoriad.  Fodd bynnag, oherwydd y cyngor diweddaraf ynglŷn â'r feirws COVID-19 parhaus, mae'r Cyngor wedi penderfynu canslo'r digwyddiadau hyn. Gan nad yw'r sesiynau hyn yn un o ofynion y Cod Trefniadaeth Ysgolion 2018, mae’r Cyngor o'r farn bod y rhain yn peri risg ddiangen i staff, disgyblion ac aelodau'r gymuned.

 

Os oes gennych unrhyw ymholiadau drwy gydol y cyfnod ymgynghori, gallwch gysylltu ag aelod o'r Tîm Ysgolion yr 21ain Ganrif gan ddefnyddio'r manylion cyswllt a nodir isod:

 


Bydd yr adran cwestiynau cyffredin hefyd yn cael ei diweddaru drwy gydol yr ymgynghoriad i adlewyrchu'r ymholiadau a godwyd.

 

Ymateb i'r ymgynghoriad

Cychwynnwyd yr ymgynghoriad yma ar 16 Mawrth 2020.

Mae Ysgol Gyfun y Bont-faen wedi cynghori'r Cyngor y bydd yn gohirio'r holl addysg ffurfiol o 23 Mawrth 2020 oherwydd y goblygiadau sy'n gysylltiedig â feirws parhaus COVID-19. Bydd yr ymgynghoriad yn parhau'n agored yn ystod y cyfnod hwn a gall y rhai yr ymgynghorir â nhw gyflwyno adborth gan ddefnyddio'r ffurflen ar-lein neu'r ffurflen ymateb sydd ar ddiwedd y ddogfen ymgynghori. Fodd bynnag, bydd dyddiad gorffen yr ymgynghoriad yn cael ei estyn pan fo rhagor o wybodaeth ar gael ynghylch ailagor Ysgol Gyfun y Bont-faen. Ni fydd dyddiad gorffen i’r ymgynghoriad ar hyn o bryd. 


Mae eich barn yn bwysig, ac mae yna nifer o ffyrdd y gallwch ymateb i'r ymgynghoriad:

Rhadbost RTGU-JGBH-YYJZ

Darpariaeth Gynradd yn y Bont-faen

Cyngor Bro Morgannwg

Y Swyddfeydd Dinesig

Heol Holton

Y Barri

CF63 4RU

 

Cwestiynau Cyffredin

  • Pam sefydlu ysgol pob oed? 
    Mae ysgol pob oed yn fodel addysg sy’n cyfuno mwy nag un cyfnod yn addysg plentyn mewn un sefydliad addysg. Yn y cyd-destun hwn, byddai’n golygu bod y cyfnodau addysg cynradd ac uwchradd yn cael eu rheoli fel un ysgol.

    Fel a nodir uchod, y prif sbardun ar gyfer y cynnig hwn yw ateb galw uwch am addysg gynradd cyfrwng Saesneg yn y Bont-faen o ganlyniad i ddatblygiadau tai diweddar ac arfaethedig. Cafodd safle Ysgol Gyfun y Bont-faen ei adnabod fel y safle a ffefrir i gyflawni’r capasiti uwch. Fe wnaeth y Cyngor ystyried enghreifftiau eraill yn yr ardal lle mae mwy nag un cyfnod addysg yn rhannu un safle, megis Cymuned Ddysgu Llanilltud Fawr ac Ysgol Gymraeg Bro Morgannwg. Mae’r model ysgol pob oed yn darparu cyfleoedd ychwanegol o ran mwy o gydweithio, gwell cyfleusterau, gwell trefniadau pontio a rheolaeth gyson ar y safle.   
  • A fyddai pennaeth newydd? 
    Byddai Pennaeth Ysgol Gyfun y Bont-faen yn dod yn bennaeth yr ysgol pob oed a byddai’n gyfrifol am yr holl gyfnodau addysg.

    Er bod yr holl gyfnodau addysg yn cael eu rheoli fel un sefydliad, byddai’r cyfnod cynradd yn dal i fod ag arweinydd (mewn modelau blaenorol pennaeth y cyfnod cynradd fu hwn) a byddai’n cael ei leoli mewn adeilad ar wahân wedi’i ddylunio’n benodol ar gyfer disgyblion cynradd.

    Corff llywodraethu Ysgol Gyfun y Bont-faen fyddai’n gyfrifol am ddatblygu strwythur staffio ar gyfer yr ysgol. Byddai unrhyw newidiadau arfaethedig i’r strwythur staffio’n amodol ar ymgynghori’n llawn â staff a’r undebau llafur perthnasol lle y bo angen.  
  • Beth fyddai’r trefniadau derbyn ar gyfer yr ysgol pob oed 3-19 oed? 

    Cyngor Bro Morgannwg yw’r awdurdod derbyn ar gyfer ysgolion cymunedol. 30 o ddisgyblion fyddai’r nifer derbyn ar gyfer ffrwd dderbyn Medi 2022. Byddai’r ysgol hefyd yn cynnig 48 o leoedd meithrin rhan-amser o fis Medi 2022. Ni fyddai disgyblion yn cael eu derbyn i grwpiau Blwyddyn 1-6 ar adeg agor yr ysgol. Byddai’r cyfnod cynradd yn tyfu ac yn derbyn disgyblion i’r grwpiau blwyddyn hyn dros gyfnod o saith mlynedd. Mae hyn yn cyfyngu ar effaith darpariaeth ysgol newydd ar ysgolion cyfagos ac yn galluogi ysgol newydd i dyfu mewn modd sefydlog. Yn y cyfnod uwchradd byddai disgyblion yn trosglwyddo’n naturiol o flwyddyn 6 i flwyddyn 7 heb wneud cais am le.

     
  • A fyddai’r cynnig hwn yn effeithio ar dderbyniadau uwchradd ar gyfer Ysgol Gyfun y Bont-faen?
    Fel a nodir uchod, byddai disgyblion o gyfnod cynradd yr ysgol pob oed yn trosglwyddo’n naturiol o flwyddyn 6 i flwyddyn 7 heb wneud cais am le. Ystyrir bod capasiti presennol Ysgol Gyfun y Bont-faen yn addas i ateb y galw uwch am addysg uwchradd yn y dalgylch. Er bod goralw cyson am leoedd yn Ysgol Gyfun y Bont-faen, mae’r ysgol yn denu nifer fawr o geisiadau o’r tu allan i’r dalgylch. Ym mis Medi 2019, dim ond 151 (63%) o’r 240 o ddisgyblion y dyrannwyd lle iddynt oedd yn byw yn y dalgylch. O’r 1,539 o ddisgyblion sydd ar y gofrestr ar hyn o bryd yn Ysgol Gyfun y Bont-faen, dim ond 960 (62%) sy’n byw yn y dalgylch. Mae hyn yn golygu bod 579 (38%) o’r disgyblion sydd ar y gofrestr yn byw y tu allan i ddalgylch yr ysgol ar hyn o bryd. Felly, byddai’r cynnig hwn yn arwain at gyflenwad a galw mwy effeithlon lle mae lleoedd uwchradd yn nalgylch Ysgol Gyfun y Bont-faen yn y cwestiwn. 
  • Pa opsiynau sydd ar gael i rieni ac arnynt eisiau addysg Gymraeg? 

    Mae Ysgol Iolo Morganwg ac Ysgol Dewi Sant yn ysgolion cynradd Cymraeg sy’n gwasanaethu’r Fro Orllewinol. Mae’r ddarpariaeth gynradd Gymraeg bresennol yn ddigon i ateb y galw a ragwelir am addysg cyfrwng Cymraeg yn yr ardal hon dros y 5 mlynedd nesaf. Ar 4 Tachwedd 2019 fe gymeradwyodd Cabinet y Cyngor ddull graddol o ehangu darpariaeth gynradd yn y Bont-faen gyda chapasiti cyfrwng Saesneg yn cael sylw fel rhan o gam un a chapasiti cyfrwng Cymraeg yn cael sylw fel rhan o gam dau. I sicrhau parhad ar draws cyfnodau allweddol, cynigir y byddai addysg cyfrwng Saesneg yn cael ei hehangu ar safle Ysgol Gyfun y Bont-faen tra byddai addysg cyfrwng Cymraeg yn cael ei hehangu gan ddefnyddio’r safle 2 hectar ar Fferm y Darren.

     

     

  • Beth fyddai dyluniad yr adeilad ysgol newydd yn ei olygu? 
     Ysgol gynradd ddwy ffrwd hunangynhaliol fyddai’r adeilad ysgol newydd (h.y. yn ffisegol ar wahân i’r ysgol gyfun bresennol ar y safle arfaethedig). Byddai’r dyluniad yn ateb gofynion Bwletin Adeiladu: 99 sy’n cynnwys meini prawf ar gyfer maint dosbarthiadau a darpariaeth awyr agored. Mae ysgolion cynradd blaenorol a ddarparwyd gan Raglen Ysgolion yr 21ain Ganrif ym Mro Morgannwg yn cynnwys Ysgol y Ddraig (sydd hefyd yn ysgol ddwy ffrwd), Ysgol Dewi Sant, Ysgol Nant Talwg (cyfnod cynradd Ysgol Gymraeg Bro Morgannwg bellach), ac Ysgol Gynradd Oak Field. Ceir manylion a ffotograffau pellach ar brif dudalen we Ysgolion yr 21ain Ganrif: 21st-Century-Schools
  • Sut fyddem ni’n cael ein cynnwys trwy gydol y broses ddylunio?  
     Byddai rhaglen ymgysylltu’n cael ei llunio i sicrhau bod yr holl randdeiliaid yn cael eu hysbysu ynghylch cynnydd ac yn gallu bwydo i mewn i’r broses ddylunio. Byddai cyfarfodydd rheolaidd rhwng y Cyngor, y contractwr a’r ysgol. Gellir anfon unrhyw adborth neu feddyliau at Dîm Ysgolion yr 21ain Ganrif yn: 21stcenturyschools@valeofglamorgan.gov.uk

 

 

Ysgolian Cwblhawyd yr 21ain Ganrif ym Mro Morgannwg

 

21stC Schools - Oakfield
(Ysgol Gynradd Oak Field, 2015)

Ysgol Gymraeg Bro Morgannwg Primary Building Indoor
(Ysgol Gymraeg Bro Morgannwg, 2014)

21stC Schools - Dewi Sant (hall2)
(Ysgol Gymraeg Dewi Sant, 2015)
21stC Schools - Dewi Sant
(Ysgol Gymraeg Dewi Sant, 2015)

 

Am ragor o wybodaeth am rai o Ysgolion yr 21ain Ganrif a adeiladwyd hyd yma ym Mro Morgannwg:

 

Manylion cyswllt