Mae ein gwefan yn defnyddio cwcis
Rydym yn defnyddio cwcis ar gyfer gweithrediad gwefannau ac i helpu i ddadansoddi ein traffig er mwyn i ni allu gwella ein gwasanaethau. Mae cwcis angenrheidiol yn helpu i wneud y wefan yn ddefnyddiadwy drwy alluogi swyddogaethau sylfaenol fel llywio tudalen. Ni all y wefan weithredu'n iawn heb y cwcis hyn. Dewiswch eich dewisiadau isod. Gwybodaeth am Gwcis
Galluogi pob cwci Caniatáu dewis
Mae Deddf Safonau a Threfniadaeth Ysgolion (Cymru) 2013 yn gosod dyletswydd ar bob Awdurdod Lleol yng Nghymru i ymgynghori ar, cynhyrchu ac adolygu cynlluniau sy'n darparu'r cyfeiriad strategol ar gyfer cynllunio a darparu addysg cyfrwng Cymraeg a'r iaith Gymraeg yn eu hardal.
Bu newidiadau sylweddol yn y sector addysg cyfrwng Gymraeg ar lefelau lleol a chenedlaethol ers i CSCA cyntaf y Cyngor a rheoliadau ynghylch Cynlluniau Gweithredu Lleol gael eu diwygio a'u diweddaru. Ar ben hynny, mae Cymraeg 2050 - Miliwn o siaradwyr yn cyflwyno gweledigaeth tymor hir ar gyfer Cymru â’r Gymraeg yn ffynnu.
Nod y strategaeth yw cynyddu:
Mae'r strategaeth yn canolbwyntio ar dair thema:
Mae gan ein system addysg statudol rôl hanfodol i'w chwarae o ran cynyddu nifer y siaradwyr Cymraeg. Rhaid inni gynyddu nifer y dysgwyr ysgol sy'n cael y cyfle i ddatblygu sgiliau Cymraeg yn yr ysgol a'r cyfle i'w ddefnyddio yn eu bywydau bob dydd, yn sylweddol, i gyflawni'r nodau hyn.
Mae strategaeth Llywodraeth Cymru yn gosod dyletswydd ar bob awdurdod lleol yng Nghymru i gynyddu cyfran yr holl grwpiau blwyddyn ysgol sy'n derbyn eu haddysg drwy gyfrwng y Gymraeg ac yn rhoi pwyslais arbennig ar gynyddu nifer y dysgwyr ym Mlwyddyn 1 a addysgir drwy gyfrwng y Gymraeg.
Deilliant 1: Mwy o blant meithrin / plant tair oed yn derbyn eu haddysg drwy gyfrwng y Gymraeg
Deilliant 2: Mwy o blant dosbarth derbyn / plant pump oed yn derbyn eu haddysg drwy gyfrwng y Gymraeg.
Deilliant 3: Mwy o blant yn parhau i wella eu sgiliau Cymraeg wrth drosglwyddo o un cam yn eu haddysg statudol i'r llall.
Deilliant 4: Mwy o gyfleoedd i ddysgwyr ddefnyddio'r Gymraeg mewn gwahanol gyd-destunau yn yr ysgol.
Deilliant 5: More opportunities for learners to use Welsh in different contexts in school
Deilliant 6: Cynnydd yn y ddarpariaeth Gymraeg ar gyfer disgyblion ag anghenion dysgu ychwanegol (ADY) yn unol â'r dyletswyddau a osodir gan Ddeddf Anghenion Dysgu Ychwanegol a’r Tribiwnlys Addysg (Cymru) 2018.
Deilliant 7: Cynyddu nifer y staff addysgu sy'n gallu addysgu Cymraeg (fel pwnc) ac addysgu drwy gyfrwng y Gymraeg
Cynllun Strategol y Gymraeg Mewn Addysg (CSCA) Drafft 2022-32
Bydd y cyfnod ymgynghori yn para o Ddydd Gwener 15 Hydref 2021 i Ddydd Gwener 10 Rhagfyr 2021. Gallwch ymateb i'r ymgynghoriad drwy gwblhau ein arolwg ar-lein:
Arolwg CSCA
Rydym yn croesawu adborth ar y ddogfen gyfan, yr holl Ddeilliannau rhagnodedig neu gallwch ymateb ar Ddeilliant unigol yn unig.
Dogfennau perthnasol
Os hoffech gael copi caled o'r CSCA, cysylltwch â Jeremy Morgan yn:
jmorgan@valeofglamorgan.gov.uk
Mae croeso i chi gysylltu â ni os oes gennych unrhyw gwestiynau.
Jeremy Morgan
Lisa Lewis