Cynllun Strategol Cymraeg mewn Addysg 2017-2020
Dylid ystyried Cynllun Strategol Cymraeg mewn Addysg 2017-2020 Cyngor Bro Morgannwg yng nghyd-destun strategaeth ehangach Llywodraeth Cymru ar gyfer y Gymraeg.
Gweledigaeth Llywodraeth Cymru yw gweld miliwn o siaradwyr Cymraeg erbyn 2050.Er mwyn cyflawni hynny, mae Llywodraeth Cymru’n credu bod angen gwneud sawl peth, gan gynnwys:
-
mwy o blant mewn addysg cyfrwng Cymraeg;
-
cynllunio gwell o ran sut y mae pobl yn dysgu’r iaith;
-
cyfleoedd amlycach i bobl ddefnyddio’r iaith;
-
seilwaith cryfach a chwyldro i wella darpariaeth ddigidol yn Gymraeg; a
-
newid y ffordd yr ydym yn ei thrafod.
Yn ôl y Cyfrifiad diweddaraf yn 2011, roedd 562,000 o siaradwyr Cymraeg yng Nghymru. Ar y sail honno, nod strategaeth Llywodraeth Cymru fydd bron iawn dyblu nifer y siaradwyr Cymraeg erbyn hanner ffordd drwy’r ganrif. Er mwyn galluogi hynny i ddigwydd, mae strategaeth Llywodraeth Cymru ar gyfer y Gymraeg yn blaenoriaethu 6 phrif faes gweithredu:
Mae Llywodraeth Cymru yn cydnabod mai’r system addysg yw’r brif ffordd o sicrhau y gall plant ddatblygu eu sgiliau Cymraeg, a chreu siaradwyr newydd.
Mae Cynllun Strategol Cymraeg mewn Addysg Cyngor Bro Morgannwg ar gyfer 2017-2020 yn cyflwyno datganiad gweledigaeth a chyfeiriad strategol ar gyfer cynllunio a darparu addysg cyfrwng Cymraeg ac Addysg Gymraeg yn yr awdurdod. Mae’r cynllun yn canolbwyntio ar 7 canlyniad allweddol:
-
mwy o blant saith oed yn cael eu haddysgu drwy gyfrwng y Gymraeg fel canran o garfan Blwyddyn 2;
-
mwy o ddysgwyr yn parhau i wella eu sgiliau iaith wrth bontio o'r ysgol gynradd i'r ysgol uwchradd;
-
mwy o ddysgwyr yn astudio am gymwysterau drwy gyfrwng y Gymraeg;
-
mwy o ddysgwyr rhwng 16 a 19 oed yn astudio’r Gymraeg a phynciau drwy gyfrwng y Gymraeg; a
-
mwy o ddysgwyr gyda gwell sgiliau Cymraeg.
-
Darpariaeth cyfrwng Cymraeg i ddysgwyr gydag Anghenion
-
Ychwanegol cynllunio gweithlu a datblygiad proffesiynol parhaus
Os oes gennych chi unrhyw ymholiadau ynghylch Cynllun Strategol Cymraeg mewn Addysg Cyngor Bro Morgannwg, cysylltwch â Jeremy Morgan.